AS Ceidwadol yn galw ar Liz Truss i ymddiswyddo

  • Cyhoeddwyd
Jamie WallisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jamie Wallis wedi galw ar Liz Truss i ymddiswyddo fel Prif Weinidog y DU

Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn galw arni i ymddiswyddo.

Fe wnaeth AS Pen-y-bont ar Ogwr, Jamie Wallis, gyhuddo Liz Truss o "wallau sylfaenol iawn y gellir eu hosgoi" yn sgil cyllideb fach y llywodraeth a'r penderfyniad i ddiswyddo'r Canghellor Kwasi Kwarteng.

Yn annisgwyl ben bore Llun fe gyhoeddwyd y bydd y Canghellor newydd, Jeremy Hunt yn cyflwyno ei gynlluniau ariannol ar gyfer y wlad yn ystod y dydd, bythefnos yn gynt na'r disgwyl, yn y gobaith o sicrhau'r marchnadoedd ariannol.

Daeth galwad Mr Wallis oriau wedi ymddiheuriad gan is-weinidog yn Swyddfa Cymru, David TC Davies, am yr effaith mae cyllideb fechan Llywodraeth y DU wedi'i gael ar bobl gyffredin.

Dywedodd AS Ceidwadol Mynwy fod rhai o ASau eraill y blaid wedi tanseilio'r arweinyddiaeth, a bod hynny wedi ychwanegu at y "teimlad o ansefydlogrwydd".

Galwodd am undod ymysg ASau Ceidwadol er mwyn "symud ymlaen".

Llythyr i'r Prif Weinidog

Yn y llythyr y mae wedi ei gyhoeddi ar ei gyfrif Twitter, dolen allanol, dywedodd Mr Wallis ei bod wedi "tanseilio hygrededd economaidd Prydain ac wedi torri asgwrn ein plaid yn anadferadwy".

Bellach y trydydd AS Ceidwadol sydd wedi galw'n gyhoeddus ar Ms Truss i ymddiswyddo, ychwanegodd: "Gall camgymeriadau gael eu dadwneud, ac fel un tîm unedig rwy'n credu y gallwn gyflawni bron unrhyw beth.

"Fodd bynnag, tra mai chi yw'r arweinydd, nid wyf yn credu bod hyn yn bosibl mwyach."

Bu i Liz Truss a'r Canghellor newydd, Jeremy Hunt, gynnal trafodaethau ddydd Sul wrth i'r llywodraeth geisio achub ei hygrededd ar yr economi.

Cafodd y cyn-Ganhellor Kwasi Kwarteng ei ddiswyddo ddydd Gwener.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth y DU
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Prif Weinidog Liz Truss a'r Canghellor newydd Jeremy Hunt yn cynnal trafodaethau ddydd Sul

Dywedodd David TC Davies ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales fod y problemau wedi dechrau am fod y llywodraeth wedi ceisio canfod ffordd i roi cymorth i'r cyhoedd gyda'u biliau ynni.

"Rwy'n ymddiheuro am yr holl broblemau mae hynny wedi'i achosi," meddai.

"Rwy'n deall fod teimlad o ansefydlogrwydd ar y funud a bod pobl yn nerfus - rwy'n deall hynny'n iawn.

"Mae'r canghellor wedi mynd, yn rhannol oherwydd y mini budget, ac mae angen i ni newid ambell beth er mwyn gallu parhau."

'Taflu mwd ddim yn helpu'

Ychwanegodd Mr Davies ei fod yn teimlo mai'r unig ffordd o symud ymlaen yw i'r Ceidwadwyr gefnogi Ms Truss a'i llywodraeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Dydw i ddim yn meddwl fod taflu mwd yn helpu o gwbl," meddai David TC Davies

"Fy neges i ASau Ceidwadol eraill ydy, gadewch i ni symud ymlaen a gwneud ein gwaith," meddai.

"Ry'n ni eisiau economi sefydlog a ry'n ni eisiau gwneud y peth iawn i bobl a busnesau'r wlad.

"Dydw i ddim yn meddwl fod taflu mwd yn helpu o gwbl."

Dywedodd y dylai'r ASau Ceidwadol sy'n galw ar Ms Truss i fynd "jyst derbyn ein bod ni mewn sefyllfa anodd iawn".

Yn cyfeirio 'nôl at y ras arweinyddiaeth rhwng Ms Truss a Rishi Sunak, dywedodd Mr Davies fod "nifer fach o ASau sydd weithiau ddim yn gallu derbyn eu bod nhw wedi colli'r ddadl".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae galwadau wedi bod ar Liz Truss i ymddiswyddo, yn cynnwys gan ASau Ceidwadol

"Dydw i ddim wastad wedi rhoi fy nghefnogaeth i'r rheiny a ddaeth yn arweinwyr y blaid Geidwadol.

"Ond rydw i'n Geidwadwr, yn credu mewn gwerthoedd Ceidwadol, ac felly pwy bynnag ydy'r arweinydd rydw i am eu cefnogi nhw."

'Dechrau gwael'

Ar BBC Politics Wales yn ddiweddarach dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb fod "yr wythnosau nesaf am fod yn allweddol" i Ms Truss ar ôl "dechrau gwael".

"Yr her sydd o'n blaenau yw ein cael ni trwy aeaf anodd iawn, mynd i'r afael â chostau ynni uchel, ac yna canolbwyntio ar amddiffyn pobl - yn enwedig rheiny sydd ar y cyflogau isaf," meddai.

"Tu hwnt i hynny, bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd am sut ry'n ni'n rheoli ein cyllidebau fel gwlad."