Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Scarlets 36-12 Zebre
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd y Scarlets i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Zebre yn Llanelli nos Sadwrn.
Cafodd y Scarlets y dechrau perffaith wrth i'r maswr Sam Costelow groesi am gais cynnar, cyn i'r blaenasgellwr MJ Pelser daro 'nôl i'r ymwelwyr.
Daeth ail gais y tîm cartref wedi hanner awr trwy Sam Lousi, cyn i'r capten Jonathan Davies ychwanegu trydydd wedi i Luca Rizzoli weld cerdyn melyn am dacl uchel ar Costelow.
Gyda'r sgôr yn 21-5 ar yr egwyl, sicrhaodd Costelow bwynt bonws i'r Scarlets ar ddechrau'r ail hanner, ond yna fe gafodd Lousi gerdyn coch am wneud cysylltiad â phen Gerónimo Prisciantelli mewn tacl.
Sgoriodd Lorenzo Pani ail gais i'r Eidalwyr wedi hynny, cyn i Ryan Conbeer ychwanegu pumed cais i'r Scarlets yn y munudau olaf.