Cosbi chwaraewyr Rygbi Caerdydd am gamymddwyn mewn tafarn
- Cyhoeddwyd
Mae rhanbarth Rygbi Caerdydd yn dweud eu bod wedi disgyblu "nifer fechan" o chwaraewyr ar ôl i banel disgyblu benderfynu eu bod wedi ymddwyn yn annerbyniol mewn tafarn yn y ddinas.
Roedd honiadau fod rhai chwaraewyr wedi taflu wyau a bygwth staff yn nhafarn The Grange yn ardal Grangetown ar noson allan ddechrau mis Hydref.
Dyw'r clwb heb fanylu ar bwy yw'r chwaraewyr dan sylw, na beth yw'r "amryw o gosbau" maen nhw wedi'u hwynebu.
Ond mewn datganiad dywedodd y clwb fod y chwaraewyr yn "edifar yn ofnadwy" am yr hyn ddigwyddodd.
Dywedodd rheolwyr tafarn The Grange nad oes ganddyn nhw sylw i'w wneud ar ddatganiad Rygbi Caerdydd.
Bygwth staff a thaflu wyau
Roedd cynrychiolwyr o'r rhanbarth wedi cwrdd gyda rheolwyr y dafarn er mwyn dod o hyd i'r "ffeithiau llawn" am ymddygiad y chwaraewyr.
Mae BBC Cymru yn deall fod yr honiadau yn erbyn o leiaf dau o chwaraewyr - sydd heb gael eu henwi - yn cynnwys eu bod wedi bod yn ymosodol a bygythiol tuag at staff y dafarn ar 1 Hydref.
Roedd honiadau hefyd eu bod wedi dod ag wyau gyda nhw i'r dafarn a'u taflu ar fyrddau a'r llawr.
Ond dywedodd Rygbi Caerdydd mewn datganiad fore Sul fod "llawer o'r sibrydion ar gyfryngau cymdeithasol yn anghywir".
'Ddim yn goddef camymddwyn'
"Mae nifer fechan o chwaraewyr unigol - sydd oll yn edifar yn ofnadwy - wedi wynebu amryw o gosbau," meddai'r datganiad.
"Mae'r rheiny a gafodd eu heffeithio gan eu hymddygiad wedi cael eu diweddaru yn ystod y broses ac wedi derbyn y canlyniad.
"Tra bod nifer fechan o'r garfan wedi ymddwyn mewn modd annerbyniol, mae'r clwb eisiau pwysleisio fod llawer o'r sibrydion ar y cyfryngau cymdeithasol yn anghywir, yn awgrymu pethau na ddigwyddodd, ac felly roedd yn annheg ar nifer o unigolion.
"Mae'r chwaraewyr dan sylw wedi cael eu hatgoffa o werthoedd diwylliannol y clwb a'r modd y mae disgwyl iddyn nhw ymddwyn fel staff a ffigwr cyhoeddus. Bydd y garfan gyfan yn cael eu hatgoffa o hyn.
"Dyw Rygbi Caerdydd ddim yn goddef unrhyw fath o gamymddwyn, ar ac oddi ar y cae, ac rydym yn ymddiheuro i unrhyw un a gafodd eu heffeithio gan ymddygiad y chwaraewyr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2022