Ychwanegu madarch i wneud fflapjacs yn fwy maethlon

  • Cyhoeddwyd
Rhian Owen a Rhian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhian Owen (chwith) bydd modd canfod marchnad newydd i'w fflapjacs - ar ôl newid y rysáit ychydig

Mae becws o ogledd Cymru wedi bod yn gwneud cacennau mwy maethlon drwy ychwanegu powdr madarch iddyn nhw.

Mae cwmni Siwgr a Sbeis o Lanrwst wedi gweithio gyda chwmni Madarch Cymru o Feddgelert i greu fflapjacs iachach.

Ymunodd y ddau gwmni â rhaglen Bwydydd y Dyfodol, sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth, i addasu'r rysáit ar gyfer y danteithion fel eu bod yn cynnwys llai o siwgr ond mwy o fitaminau.

Mae'r madarch yn ffynhonnell dda o fitamin D, sy'n hanfodol ar gyfer cadw esgyrn, dannedd a chyhyrau yn iach ac atgyfnerthu'r system imiwnedd.

Cyfle am gynnyrch newydd

Mae Madarch Cymru, sy'n tyfu eu cynnyrch yn Llanerfyl ym Mhowys ac yn Ngwynedd, wedi cynyddu lefel fitamin D2 mewn madarch ffres drwy eu tyfu o dan olau LED yn hytrach na golau fflworoleuol.

Mae profion wedi awgrymu bod powdr madarch mewn fflapjac yn cynnig buddion posib i'r corff a newidiadau metaboledd.

Bydd canlyniadau'r cydweithio rhwng y cwmnïau bwyd ac ymchwilwyr yn cael eu trafod mewn cynhadledd yn Aberystwyth ddydd Iau.

Dywedodd Rhian Owen o gwmni Siwgr a Sbeis fod yr ymchwil yn "gyffrous".

"Mi ddaeth Prifysgol Aberystwyth atom ni, i ofyn fydden ni'n gallu gwneud y fflapjacs, ac y bydden nhw'n gweld sut bydden nhw'n elwa o roi cynhwysyn gwahanol ynddyn nhw, i weld a fyddai modd creu rhywbeth mwy na chacen sy'n bleserus iawn i'w bwyta.

"Mae'r ymchwil yn andros o gyffrous. Wrth i ni edrych i'r dyfodol, mae'r canlyniadau yn cynnig sail gref i ni gynllunio cynnyrch newydd."

Ychwanegodd: "Rydyn ni eisoes wedi defnyddio iogwrt ar gyfer pannacotta fel ei fod yn is o ran braster.

"Ac rydyn ni'n obeithiol y gallwn ni fanteisio ar y madarch maethlon sy'n cael eu tyfu yma yn y gogledd.

"Fflapjacs ydy un o'n cynnyrch mwyaf poblogaidd ni. O ran y blas 'dan ni angen tweakio 'chydig o bethau, ond mae'n wych gweld bod 'na werth i hyn. Mae'n ein galluogi ni i anelu am farchnad hollol wahanol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae profion wedi awgrymu bod ychwanegu powdr madarch i'r fflapjacs yn cynnig buddion corfforol

Dywedodd Cynan Jones o Fadarch Cymru: "Heb os, mae wedi bod yn gyfle arbennig iawn i gydweithio gyda'r Brifysgol a busnesau eraill ar y prosiect hwn.

"Mae wedi agor y drws i lawer o gyfleon, ac mae potensial i gynyddu gwerth masnachol ein cynnyrch.

"Yn sgîl cymryd rhan yn y rhaglen yma, rydyn ni wedi dechrau sgyrsiau gyda chwmnïau eraill sy'n dymuno cydweithio â ni."

Cafodd rhaglen Bwydydd y Dyfodol ei hariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a dywedodd Dr Amanda J Lloyd o Brifysgol Aberystwyth fod yr ymchwil wedi bod yn "llwyddiant".

"Mae'r cydweithio rhwng Siwgr a Sbeis, Madarch Cymru a phartneriaid eraill hefyd yn dangos sut mae'r prosiect wedi helpu busnesau Cymru i ddatblygu cynnyrch iach a llwyddiannus yn fasnachol," meddai.