Cynllun ar y gweill i farchnata cynnyrch Cymreig
- Cyhoeddwyd
Bydd yna logo neilltuol cyn diwedd y flwyddyn ar gyfer marchnata ac allforio cynnyrch Cymreig amrywiol, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Bydd brand newydd 'Cnwd Cymru/Wales Made' yn canolbwyntio i ddechrau "ar ddetholiad bach o frandiau arloesol o ansawdd uchel sydd eisoes yn gweithredu'n rhyngwladol".
Mae cynllun tebyg eisoes yn bodoli yn achos bwyd a diod o Gymru.
Un sy'n croesawu'r fenter - a fydd yn dechrau'n ddiweddarach eleni - yw gwneuthurwr drymiau o'r de.
"Ro'n i methu credu bod dim byd swyddogol eisoes ar gael," meddai Rhys Thomas, sy'n cynhyrchu drymiau ar archeb o'i weithdy ym Mhont-y-clun, Rhondda Cynon Taf.
"Mae bathodyn ar gyfer bwyd a diod ac rwy' mo'yn rwbeth ar gyfer nwyddau erill o Gymru."
'Safon uchel iawn'
Menter gymharol newydd yw cwmni Mr Thomas, Tarian Drums, ond mae eisoes wedi sicrhau archebion gan gwsmeriaid yn rhyngwladol.
Dywedodd Mr Thomas ei fod "ishe rhoi llwyfan i Gymru i ddangos i'r byd ein bod ni yn gallu g'neud cynnyrch o safon uchel iawn".
Byddai logo swyddogol sy'n dangos bod nwyddau wedi eu cynhyrchu yng Nghymru "yn sicrhau cysondeb a safonau, ac fe fyddai hefyd yn dangos i bawb fod y cynnyrch wedi eu 'neud yng Nghymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn annog busnesau i ddathlu'r ffaith bod eu cynnyrch yn cael ei wneud yng Nghymru.
"I gefnogi hyn, mae ein 'Cnwd Cymru/'Wales Made' yn fenter brand newydd sy'n anelu at feithrin ymwybyddiaeth a chanfyddiadau cadarnhaol o Gymru yn rhyngwladol drwy arddangos llond llaw o frandiau o'r radd flaenaf o Gymru a ddewiswyd ymlaen llaw.
"Bydd y fenter newydd hon, a gaiff ei lansio yn ddiweddarach eleni, yn canolbwyntio i ddechrau ar ddetholiad bach o frandiau arloesol o ansawdd uchel sydd eisoes yn gweithredu'n rhyngwladol ac yn dathlu cymwysterau cynaliadwyedd a tharddiad Cymru yn gryf."
'Lefel ddigynsail' o ddiddordeb
Roedd yn fwriad gan Lywodraeth Cymru i lansio'r fenter yn 2020, ond bu'n rhaid gohirio oherwydd y pandemig.
Dywedodd y llefarydd eu bod wedi gwahodd cwmnïau i ddatgan diddordeb mewn bod yn rhan o'r cynllun, a bod panel o arbenigwyr wedi dethol "casgliad bach o frandiau ar sail meini prawf oedd wedi eu cytuno".
Yn sgil "lefel ddigynsail" o ddiddordeb, mae'n fwriad i "roi rhagor o ystyriaeth i hybu deunydd a straeon ynghylch ystod ehangach o frandiau yn y dyfodol".
Ond y flaenoriaeth ar hyn o bryd yw "canolbwyntio ar lansio'r prif gynllun nes ymlaen eleni... a straeon casgliad llai o frandiau o'r radd flaenaf drwy'r byd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2021
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2019