Graffiti gwrth-Seisnig 'ffiaidd' ar dafarn yn Llandeilo

  • Cyhoeddwyd
Barrie Martin
Disgrifiad o’r llun,

Bu Barrie Martin yn peintio dros y geiriau fore Mercher

Mae'r heddlu'n ymchwilio i graffiti gwrth-Seisnig gafodd ei baentio ar wal tafarn yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd y geiriau 'Leave English or die' eu hysgrifennu ar wal y Cottage Inn yn Llandeilo rywbryd rhwng nos Lun 17 Hydref a bore Mawrth 18 Hydref, yn ôl Heddlu Dyfed Powys.

Dywedodd un o berchnogion y dafarn fod y geiriau'n "ffiaidd" a'r perchnogion wedi cwestiynu gwerth parhau â'u gwaith.

Ychwanegodd un cynghorydd lleol fod y gymuned gyfan wedi cael sioc.

Disgrifiad o’r llun,

Mae un o berchnogion yr adeilad yn dweud fod y geiriau'n "ffiaidd" a'u bod wedi eu "tristáu a'u siomi"

Dywedydd cyd-berchennog y dafarn, Barrie Martin, fod y geiriau yn "ffiaidd".

"Does dim byd fel hyn wedi digwydd ers i ni fod yn berchen arni [y dafarn], mae wedi bod yn llwyddiannus iawn, a 'dyn ni ddim wedi cael unrhyw brofiad o drwbl fel hyn yn y gorffennol."

Fe brynodd Mr Martin y dafarn tua 15 mlynedd yn ôl gyda dau berson lleol arall.

Ers mis Mai, mae landlordiaid newydd wedi rhedeg y lle.

"Y peth cyntaf ry'ch chi'n teimlo yw ei fod yn ffiaidd o ran pam neu bwy allai ysgrifennu'r geiriau ymfflamychol, yn enwedig y gair 'marw'.

"Ro'n ni wedi'n tristáu ac yn siomedig."

'Gwerth parhau?'

Dywedodd Mr Martin fod y landlordiaid wedi "trïo rhoi cyfleoedd a gwaith i bobl leol".

Ychwanegodd eu bod wedi "eu heffeithio'n emosiynol" gan y graffiti i'r "pwynt lle'r oedden nhw'n cwestiynu, 'ydy hi'n werth parhau?'".

"Yr hyn sydd gyda chi fan hyn yw dau berson sy'n gweithio'n galed sydd wedi dod a rhoi llawer o amser ac ymdrech.

"Dw i'n teimlo'n flin iawn drostyn nhw ac mae wedi tristáu y ddau ohonyn nhw'n fawr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gymuned gyfan wedi cael sioc yn ôl un cynghorydd lleol, Edward Thomas

Dywedodd y cynghorydd lleol, Edward Thomas, ei fod e a'r gymuned wedi cael "sioc ac yn siomedig".

"Mae Llandeilo yn dref sydd yn croesawu pobl ac i weld 'na neithiwr [nos Fawrth] ar social media, o'n i'n absolutely shocked.

"Dyw pethe' fel hyn ddim yn digwydd yn y dref. Mae tamaid bach o anti-social behaviour ond rhywbeth fel hyn, mae'n absolutely disgusting.

"Yn Saesneg, ni'n galw e'n hate crime.

"Gobeithio bydd yr heddlu'n ffeindio mas pwy sydd wedi 'neud e."

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd ac y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig