Cyfreithiwr wedi lladd ei hun oherwydd pwysau gwaith

  • Cyhoeddwyd
Adeiladau Llywodraeth Cymru ym Mharc CathaysFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Owain Vaughan Morgan yn gweithio yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays

Clywodd cwest sut y gwnaeth pwysau gwaith ar un o gyfreithwyr Llywodraeth Cymru arwain at ei hunanladdiad.

Doedd gan Owain Vaughan Morgan, 44 - oedd yn rhannol gyfrifol am ysgrifennu deddfau yn ymwneud â chyfnodau clo y pandemig - ddim hanes o orbryder nac iselder tan 2020.

Mewn datganiad gafodd ei ddarllen yn y cwest i'w farwolaeth, dywedodd ei wraig Catherine fod ei gŵr a thad eu dau o blant yn "ddyn teulu" oedd yn mwynhau darllen ac un oedd yn caru'r awyr agored.

Er iddi ddweud ei fod yn dueddol o boeni am bethau, disgrifiodd ef fel dyn "tawel a digynnwrf".

Cafwyd hyd i Mr Morgan yn farw mewn coedwig ar 14 Ebrill 2021 ar ôl i'w wraig adrodd wrth yr heddlu ei fod ar goll.

Swydd heriol ac oriau hir

Clywodd y cwest i farwolaeth Mr Morgan ei fod wedi cael ei ddyrchafu ym mis Ionawr 2020 i lefel rheolwr yn ei waith fel cyfreithiwr i Lywodraeth Cymru, a'i fod yn gweld y swydd yn heriol gydag oriau gwaith hir.

Roedd Mr Morgan hefyd yn ei gweld hi'n anodd gweithio o adre' yn nyddiau cynnar y cyfnod clo cyntaf. Roedd wedi cael nervous breakdown ym mis Mai 2020, gyda phyliau o banig ac o grynu o flaen ei gyfrifiadur.

Clywodd y cwest fod ei waith yn cynnwys llunio rheoliadau Covid.

Cafodd bresgripsiwn ar gyfer cyffuriau gwrth-iselder a chyfnod i ffwrdd o'i waith wedi hynny.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwrandawiad ei gynnal yn Llys Crwner Pontypridd

Dywedodd meddyg teulu Mr Morgan, Dr Huw Davies, fod iechyd meddwl Mr Morgan wedi cael ei fonitro am sawl mis ac iddo dderbyn cymorth ar gyfer ei iechyd meddwl.

Ond gwaethygodd y sefyllfa ac ar 23 Chwefror 2021 fe wnaeth Mr Morgan geisio lladd ei hun.

Y diwrnod hwnnw, cafodd ei gludo i Ysbyty Llandochau ger Caerdydd.

Poeni am golli ei swydd

Dywedodd seiciatrydd Mr Morgan, Dr Anne-Marie Dunsby, wrth y cwest ei fod yn teimlo ei fod yn faich ar ei deulu, ac nad oedd yn ddigon da iddyn nhw.

Roedd hefyd yn poeni y byddai ei gyflogwr yn dod i'r casgliad na fyddai'n ddigon iach i ddychwelyd i'w waith, ac am yr effaith ariannol y byddai colli ei swydd yn ei gael ar ei deulu.

Ar ôl cael ei ryddhau o'r ysbyty clywodd y cwest i iechyd meddwl Mr Morgan waethygu unwaith yn rhagor, ac ar 13 Ebrill fe aeth ei wraig at yr heddlu i rannu ei phryder fod ei gŵr ar goll.

Dywedodd ei wraig fod Mr Morgan yn edrych yn "normal" y bore hwnnw, ac "nad oedd yn edrych yn wahanol i unrhyw fore arall".

Daeth yr heddlu o hyd i gorff Mr Morgan y diwrnod canlynol mewn coedwig yn ardal Llysfaen, Caerdydd.

Dywedodd y Crwner Gaynor Kynaston fod Mr Morgan wedi dioddef o broblemau iechyd meddwl dwys oedd yn gysylltiedig â phwysau gwaith a diffyg hunanhyder. Cofnodwyd rheithfarn o hunanladdiad.

Pynciau cysylltiedig