Dynes yn 'flin' gydag ymateb Drakeford i achos ei thad

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y prif weinidog yn ymateb yn gandryll i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig [yn Saesneg]

Mae merch dyn a gafodd ei adael ar y llawr am 15 awr yn disgwyl am ambiwlans yn dweud ei bod yn "flin" gydag ymateb y Prif Weinidog.

Cafodd Keith Morris, 79 oed, o Ferthyr Tudful ei adael mewn poen dros nos wrth aros am ambiwlans.

Ymateb yn gandryll wnaeth Mark Drakeford pan gododd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, brofiad Mr Morris yn y siambr yr wythnos hon.

Galwodd Mr Davies am daclo amseroedd ymateb gwael ambiwlansys.

Fe wnaeth Mark Drakeford gyhuddo plaid Mr Davies o wneud llanast o gyllideb ac enw da'r DU.

Dywedodd merch Mr Morris, Andrea Morris Nicholas, ei bod yn drist gyda'r holl sefyllfa.

"Dwi'n aelod o'r Blaid Lafur ac wedi pleidleisio dros Lafur gydol fy mywyd," meddai.

"Roedd fy nhad yn löwr ac wedi pleidleisio dros Lafur gydol ei fywyd yntau. Roedd fy nheulu i gyd wedi gwneud.

"Felly dwi'n drist ei bod wedi cymryd Ceidwadwr i godi achos fy nhad a dwi'n siomedig bod Mark Drakeford wedi ymateb yn y ffordd yna."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Keith Morris ar y llawr am 15 awr yn disgwyl am ambiwlans, gyda'r teulu wedi derbyn cyngor i beidio a'i symud tan oedd yr ambiwlans wedi cyrraedd.

Dywedodd Ms Morris Nicholas bod angen dysgu gwersi o achos ei thad: "Mae'n rhaid ei gymryd o ddifri'. Rhaid gwneud newidiadau sylfaenol.

"Mae gweithwyr iechyd a'r Gwasanaeth Ambiwlans yn gweithio mor galed a dan bwysau eithafol, ond mae gormod o bwysau arnyn nhw.

"Dwi'n deall bod yr arian yn dod o'r llywodraeth yn San Steffan, ond mae'r cyfrifoldeb ar Mark Drakeford, ac mae'n rhaid iddo gymryd y cyfrifoldeb."

Mae Llywodraeth Cymru'n "bryderus iawn am y sefyllfa y mae Llywodraeth y DU wedi'n rhoi ni ynddo a graddfa dychrynllyd y toriadau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru", meddai llefarydd.

"Roedd y Prif Weinidog yn adlewyrchu dicter pobl yng Nghymru sydd nawr yn gorfod talu am y camgymeriadau a wnaed gan Lywodraeth y DU."

Ymddiheurodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, dros yr achos: "Roedd mis Medi yn un o'n misoedd anoddaf erioed o ran perfformiad, ac mae'n wir ddrwg gennym i'r holl gleifion hynny sydd wedi aros yn llawer hirach am ambiwlans nag yr hoffem, ac roedd Mr Morris yn un ohonynt."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae amseroedd ymateb ambiwlans wedi bod yn y penawdau'r wythnos hon gydag ystadegau newydd yn dangos eu bod ar eu gwaethaf.

Fis diwethaf, cyrhaeddodd 50% o ymatebion i alwadau coch - lle mae bywyd mewn perygl uniongyrchol - o fewn wyth munud. Y targed yw 65%.

Dywed Gwasanaeth Ambiwlans Cymru mai oedi trosglwyddo cleifion mewn ysbytai yw'r rheswm mwyaf nad oes modd iddyn nhw gyrraedd rhai cleifion ar amser.

'Problem system gyfan'

Mae Darren Hughes o Gonffederasiwn y GIG, corff sy'n cynrychioli arweinwyr y GIG, yn dweud bod aros am amser hir am ambiwlans yn symptom o broblemau ehangach o fewn y system iechyd.

"Mae'n ymwneud â llif cleifion," meddai.

"Rydym yn gweld niferoedd uwch o ambiwlansys yn cyrraedd y drws ffrynt ond dydyn ni ddim yn gallu derbyn pobl am nad ydyn ni'n gallu rhyddhau pobl i'r gymuned, yn enwedig y rhai sydd angen cymorth gofal cymdeithasol.

"Felly mae'n broblem system gyfan a'r symptom yw ambiwlansys yn disgwyl wrth y drws ffrynt ond y broblem yw gallu rhyddhau cleifion."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yr wythnos hon, dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, wrth BBC Cymru bod dod o hyd i arian ar gyfer y GIG yn "uffern ar y ddaear".

Mae Llywodraeth Cymru'n "cydnabod nad yw perfformiad ambiwlans yn ble rydyn ni, GIG Cymru na'r cyhoedd yn disgwyl iddo fod ac rydym yn gyrru ymateb system gyfan i gefnogi gwelliant".

"Ry'n ni'n disgwyl i'r byrddau iechyd gymryd perchnogaeth a lleihau oedi trosglwyddo cleifion ambiwlans ar unwaith wrth weithio gyda'r gwasanaethau gofal cymdeithasol i wella prydlondeb trosglwyddiadau cleifion adref o'r ysbyty."

'Methu cwrdd â'r galw'

Dywedodd Mr Killens o'r Gwasanaeth Ambiwlans: "Ym mis Medi, fe gollon ni 25,000 o oriau i oedi trosglwyddo ar draws Cymru, sy'n cyfateb i draean ein capasiti am y mis cyfan.

"Rydyn ni'n gwybod bod cydweithwyr o'r bwrdd iechyd lleol yn gweithio'n galed iawn i greu capasiti ychwanegol mewn ysbytai, ac rydym yn parhau i wneud yr hyn a allwn ni i leddfu'r pwysau trwy drin cymaint o gleifion ag y gallwn ni yn y gymuned a'u cyfeirio at rannau eraill o'r GIG, y tu hwnt i'r Adran Achosion Brys.

"Rydym yn gweld mwy o alwadau 999 nag erioed o'r blaen, ac er gwaethaf y recriwtio mwyaf erioed - gan gynnwys creu 400 o swyddi ychwanegol yn ein Gwasanaeth Meddygol Brys yn ystod y tair blynedd ddiwethaf - nid yw'r capasiti ychwanegol yn ddigon o hyd i gwrdd â'r galw."

Galwodd ar y cyhoedd i wneud eu rhan i leddfu cymaint o bwysau â phosib: "Wrth ddisgwyl am aeaf gwirioneddol anodd, rydym yn gofyn i'r cyhoedd ond ffonio 999 mewn argyfwng difrifol neu sy'n bygwth bywyd i ddiogelu ein hadnoddau gwerthfawr i'r rhai sydd ein hangen fwyaf."