Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Caerdydd 30-24 Stormers

  • Cyhoeddwyd
Clayton Blommetjies a Josh TurnbullFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Clayton Blommetjies yn cael ei daclo gan Josh Turnbull yn ystod y gem ar Barc yr Arfau nos Sadwrn

Collodd y Stormers am y tro cyntaf mewn 15 gêm yn y Penmapwriaeth Rygbi Unedig ar noson lawog yng Nghaerdydd.

Gyda'r sgor yn 14 yr un ar yr egwyl, tîm y brifddinas aeth a hi ar domen eu hunain - yn bennaf diolch i gicio cywir Rhys Priestland.

Sgoriwyd ceisiau gan Theo Cabango a Jason Harries i'r tîm cartref.

Daeth mwyafrif o bwyntiau'r gwrthwynebwyr diolch i geisiau Leolin Zas, Junior Pokomela, a dau i Nama Xaba.

Ond y cicio oedd y gwahaniaeth gyda'r Stormers ond yn llwyddo i drosi ddwywaith, tra roedd ciciau Priestland yn gyfrifol am 20 o bwyntiau'r Gleision.

Wedi'r gêm dywedodd hyfforddwr Caerdydd, Dai Young, ei fod yn falch am sut roedd ei dim wedi cadw at y cynllun.

"Fe wnaethon ni guro pencampwyr y llynedd, Leinster, yma hefyd, felly rydyn ni'n falch iawn gyda'r ffordd wnaethon ni gyflawni cynllun y gêm," meddai.

"Rheolodd Rhys [Priestland] y gêm yn dda iawn, ar noson fel heno fe helpodd ni allan o berygl ar sawl achlysur, nid yn unig i leddfu pwysau ond i roi pwysau yn ôl arnyn nhw."

Pynciau cysylltiedig