Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Gweilch 19-22 Connacht
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes y Gweilch yn erbyn Connacht yn Stadiwm Liberty er iddyn nhw fod ar y blaen o 12 pwynt yn ystod yr hanner cyntaf.
Daeth dau gais cyntaf y tîm cartref wedi dim llai na 10 munud o chwarae, wrth i'r clo Huw Bennett wthio'i ffordd dros y linell gyda Jack Walsh yn ychwanegu'r trosiad.
Tiriodd Reuben Morgan Williams am yr ail yn fuan wedyn, cyn i Ethan Roots gael ei anfon i'r gell gosb am dacl beryglus.
Ni lwyddodd Connacht i wneud i'r dyn o fantais gyfrif ar y pryd, ond fe aethon nhw i mewn ar yr egwyl ar y blaen o 14-12 diolch i ddau gais yn hwyr yn hanner gan Alex Wooton a Caolin Blade.
Rhoddodd hynny sbarc i'r ymwelwyr, ac fe wnaethon nhw ymestyn eu mantais yn gynnar yn yr ail hanner gyda thrydydd cais, y tro hwn gan John Porch.
Ciciodd Jack Carty gôl adlam i agor y bwlch hyd yn oed yn fwy, ond gydag ychydig dros 10 munud yn weddill fe sgoriodd Sam Parry drydydd cais y Gweilch, gyda Walsh yn trosi.
Ond er fod y bwlch lawr i dri phwynt, methodd y tîm cartref â sicrhau un sgôr arall i unioni neu ennill y gêm.