Cymry yn Seoul 'mor lwcus' i osgoi gwasgfa farwol
- Cyhoeddwyd
Mae Cymraes sy'n astudio yn Seoul yn dweud ei bod hi a'i ffrindiau "mor lwcus" o fod wedi osgoi gwasgfa farwol ym mhrifddinas De Corea.
Bu farw o leiaf 154 o bobl wedi i dorfeydd ymgasglu yn ardal Itaewon y brifddinas nos Sadwrn.
Mae nifer o fideos wedi cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos pobl - llawer yn eu 20iau neu arddegau - wedi gwasgu mor dynn mewn un stryd gul fel na allen nhw symud.
Cafodd o leiaf 133 yn rhagor o bobl eu hanafu, ac mae'r Arlywydd Yoon Suk-yeol wedi galw am ymchwiliad i achos y wasgfa, a chyhoeddi cyfnod o alaru cenedlaethol.
'Dinas mewn sioc'
Mae Saran Dafydd o Gaerdydd yn astudio Corëeg mewn prifysgol yn Seoul ers mis Medi, ac yn wreiddiol wedi bwriadu mynd allan i Itaewon gyda'i ffrindiau nos Sadwrn.
"O'dd criw mawr o' ni wedi meddwl mynd 'na, ac ar hap ar y diwrnod 'naethon ni benderfynu newid a mynd i ardal wahanol," meddai wrth BBC Cymru.
"Ond fi'n 'nabod llawer o bobl aeth i'r digwyddiad, ac o'n nhw'n dweud ar ôl beth ddigwyddodd.
"'Sa i'n gallu dychmygu'r teimladau ar y foment, be' o'n nhw'n teimlo'n mynd drwy'r holl beth - jyst yn uffernol."
Mae Saran yn dweud ei bod yn teimlo'n hynod o "ddiolchgar" a "lwcus" eu bod wedi osgoi'r ardal.
"Fi'n teimlo bydden i un ai ar y llawr, neu bydde rhywbeth 'di digwydd i ni... mae'n ormod i feddwl amdano."
Ond doedd eraill ddim mor ffodus - fe gollodd un o ffrindiau Saran gyfaill yn y digwyddiad.
"Roedd un o ffrindiau fe wedi mynd, ac yn anffodus 'naeth e gwympo, pobl yn cwympo ar ei ben e, a cafodd ei wasgu," meddai.
"O'dd pawb yn gwybod bod [yr ardal] yn mynd i fod yn boblogaidd. Ond mae rhywbeth wedi mynd o'i le eleni, ac mae jyst yn erchyll.
"Chi ddim yn disgwyl mynd mas i ddathlu gyda ffrindiau ac wedyn ddim dod 'nôl."
Mae pawb yn y ddinas dal "mewn sioc", meddai.
"Gan fod cymaint o bobl yn byw yn Seoul, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn y boreau i gyd wastad yn llawn dop o bobl, felly mae pobl jyst yn meddwl am bopeth nawr, pa mor saff ydyn ni?" esboniodd Saran.
"Mae pawb ddim yn mentro allan ar y foment, jyst yn meddwl beth yw'r ffordd orau ymlaen, y ffordd orau o gadw'n saff."
'Welodd fy ffrindiau stwff erchyll'
Roedd Osian Ahir wedi teithio i Seoul o Busan, lle mae yntau'n astudio yn y brifysgol, er mwyn ymuno yn y dathliadau Calan Gaeaf gyda'i ffrindiau.
Dywedodd ei fod wedi bod allan yn Itaewon nos Wener, pan oedd hi eisoes yn "brysur iawn", ac y gallai'r awdurdodau fod wedi rhagweld a pharatoi'n well felly ar gyfer y noson ganlynol.
"Dy'n nhw ddim yn strydoedd mawr fel Queen Street [yng Nghaerdydd]," meddai.
"Mae cael miloedd o bobl yn yr un ardal heb arweinyddiaeth yn mynd i allu arwain at stwff fel sydd wedi digwydd."
Nos Sadwrn doedd ef a'i ffrindiau ddim yn siŵr a oedden nhw am fynd allan i ardal Hongdae neu Itaewon, ble roedd rhai o'u cyfoedion eisoes.
"Ar y daith yno glywson ni bod rhywbeth wedi digwydd, ac ar y pwynt yna roedd y newyddion dal yn datblygu," meddai.
"Unwaith roedd e'n amlwg bod trasiedi wedi digwydd 'naethon ni osgoi fanno yn hollol, a jyst 'neud yn siŵr bod ein ffrindiau ni oedd yno yn iawn."
Fe deithiodd Osian yn ôl i Busan "cyn gynted â phosib" y diwrnod canlynol, ac mae'n dweud fod ei ffrindiau oedd yn ardal Itaewon ar y pryd "wedi eu hysgwyd".
"Maen nhw wedi gweld stwff erchyll, ac mae fy meddyliau i gyda nhw."
'Storm berffaith'
Mae Wil Williams yn ddarlithydd Saesneg mewn prifysgol yn Seoul ers dros 10 mlynedd, a bu yn yr ardal ychydig oriau cyn y gyflafan.
"O'n i lawr yn Itaewon amser cinio yn cael pryd o fwyd, ac o'n i ar y stryd yna lle mae hyn wedi digwydd," meddai.
"Mae'r strydoedd yn gul, a'r stryd lle 'naeth hyn ddigwydd yn ofnadwy o serth hefyd."
Dywedodd fod y newyddion yn Ne Corea wedi bod yn llawn golygfeydd o'r noson ers hynny, gyda digwyddiadau Calan Gaeaf eraill bellach wedi eu canslo fel arwydd o barch.
"Mae'r fideos, mae'r lluniau dwi 'di weld, maen nhw'n hunllefus," meddai.
"Cyrff yn cael eu cario a'u gosod yng nghanol y ffordd, cael eu gorchuddio mewn plastig glas... mae jyst yn drychinebus."
Dywedodd bod sôn am sawl ffactor wnaeth gyfrannu at y wasgfa, o ddiffyg swyddogion yn yr ardal i bobl yn rhuthro allan o fariau ar yr un pryd i geisio dal y trên olaf adref.
"Roedd o fatha storm berffaith, pobl wedi casglu mewn un lle," meddai.
Mae'n gyfnod arholiadau i lawer o fyfyrwyr yn Ne Corea ar hyn o bryd, ac yn ôl Wil mae'n "ofnadwy" meddwl bod rhai o'r rheiny fu allan yn dathlu wedi colli eu bywydau.
"Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n oed stiwdants dwi'n ei ddysgu," meddai.
"Dwi'n gorfod mynd mewn i'r brifysgol fory, a dwi'n gobeithio nai'm clywed sôn am rywun yn fy mhrifysgol i sydd wedi marw - dwi ddim yn edrych ymlaen i fynd i'r gwaith bore fory."
'Ddim yn disgwyl cymaint'
Mae Itaewon yn un o ardaloedd mwyaf poblogaidd Seoul gyda'r nos, ac mae noson Calan Gaeaf fel arfer yn un o rai prysuraf y flwyddyn yno.
Yn ôl amcangyfrifon roedd tua 100,000 o bobl allan yn dathlu ddydd Sadwrn, a hynny heb gyfyngiadau am y tro cyntaf ers Covid.
Mae nifer o fideos ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos pobl yn y strydoedd yn cael eu gwasgu'n dynn, eu llusgo i bob cyfeiriad, rhai yn disgyn i'r llawr, eraill yn ei chael hi'n anodd anadlu.
Dywedodd gweinidog cartref De Corea, Lee Sang-min nad oedd swyddogion wedi disgwyl cymaint o dorfeydd ar y strydoedd cul, a bod nifer o swyddogion heddlu felly wedi cael eu lleoli yn rhannau eraill o'r ddinas y noson honno.
"Doedd dim disgwyl y byddai maint y dorf yn Itaewon yn wahanol iawn i'r blynyddoedd cynt, felly dwi ar ddeall bod swyddogion wedi cael eu gosod ar raddfa debyg i beth welon ni o'r blaen," meddai.