Rhybudd am wyntoedd cryfion i rannau o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd MercherFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rhybudd melyn mewn grym rhwng 07:00 a 20:00 ddydd Mercher

Mae rhybudd am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer rhannau gorllewinol o Gymru ddydd Mercher.

Bydd y rhybudd melyn mewn grym rhwng 07:00 a 21:00, gan effeithio ar ardaloedd arfordirol yn bennaf.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai gwyntoedd gyrraedd hyd at 65mya, ac mae oedi i drafnidiaeth gyhoeddus a cholled i gyflenwad pŵer yn bosib.

Daw wedi i rybudd melyn am law trwm fod mewn grym rhwng 20:00 nos Lun a 08:00 fore Mawrth, a hynny ar gyfer ochr ddwyreiniol y wlad yn bennaf.

Pynciau cysylltiedig