Ymchwilio i dân bwriadol honedig mewn siop wag ym Mangor

  • Cyhoeddwyd
Diffoddwr tânFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i dân sy'n cael ei drin fel un bwriadol mewn hen siop ym Mangor.

Cafodd diffoddwyr eu galw i'r adeilad gwag ar y stryd fawr toc wedi 17:30 brynhawn Llun.

Cafodd y fflamau eu diffodd fuan wedyn, yn ôl y gwasanaeth tân.

Mae'r gwasanaeth yn cydweithio gyda'r heddlu wrth ymchwilio i'r digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig