Llifogydd yn taro busnesau a rhybudd bod mwy i ddod

  • Cyhoeddwyd
AbercrafFfynhonnell y llun, Sarah Kate Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd yr olygfa yn Abercraf ddydd Mercher

Mae llifogydd wedi taro busnesau a chau ffyrdd yn ne Cymru dros nos, gyda rhybudd fod rhagor o dywydd garw i ddod.

Cafodd nifer o rybuddion llifogydd eu cyhoeddi nos Fercher yn dilyn cyfnodau o law trwm yn ystod y dydd.

Ar un cyfnod, cafodd 10 o rybuddion eu cyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol, yn bennaf yn ardaloedd Ystradgynlais, Pontardawe a Chlydach yng Nghwm Tawe.

Roedd sawl rhybudd 'Byddwch yn barod' hefyd wedi eu cyhoeddi - y mwyafrif yn ne-ddwyrain Cymru, ond hefyd yn Llanrwst, Sir Conwy a Llanymddyfri, Sir Gâr.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod wedi derbyn nifer o adroddiadau o lifogydd yn Abercraf ac Ystradgynlais a bod nifer o adeiladau wedi cael eu heffeithio.

Rhybudd am stormydd ddydd Iau

Mae rhybudd am stormydd mewn grym ar gyfer sawl sir yn y de ers 15:00 ddydd Iau hefyd.

Bydd yn para tan hanner nos, gyda phryder y gallai hynny achosi rhagor o lifogydd.

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer Abertawe, Bro Morgannwg, Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Sir Gâr, Pen-y-bont, Rhondda Cynon Taf a rhannau o dde Powys.

Ffynhonnell y llun, Aubrey Arms
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i dafarn Aubrey Arms yn Ystradgynlais gau oherwydd y llifogydd

Cafodd rhai busnesau eu heffeithio gan y llifogydd yn y de.

Bu'n rhaid cau drysau tafarn yr Aubrey Arms yn Ystradgynlais wedi'r glaw trwm, ac fe rannodd perchennog y dafarn luniau o ddŵr ar lawr y gegin a llifogydd tu allan.

'Erioed wedi gweld pethau fel hyn'

Dywedodd Hans Erive, cyfarwyddwr Red Dragon Pubs, sy'n berchen y dafarn: "Tua 18:00 fe agorodd y nefoedd ac fe ddaeth glaw enfawr i lawr.

"Roedd y draeniau yn llawn, a'r peth nesaf roedd y ffordd wedi'i rhwystro a cheir yn mynd yn sownd o flaen ein maes parcio.

"Dydyn ni ddim yn gwybod be' sydd yn y dŵr, felly mae'n rhaid i ni ddiheintio'r lle cyn y bydd modd ailagor.

"Mae'n golled i ni, a gyda chwyddiant a chostau yn mynd yn uwch ac yn uwch, mae'n anodd.

"Dwi wedi gweithio ar y safle yma am tua 12 mlynedd a dydw i erioed wedi gweld unrhyw beth fel hyn.

"Dwi wedi byw yn Ystradgynlais am yr 20 mlynedd ddiwethaf a hyn yw'r gwaethaf rydw i wedi gweld pethau."

Ffynhonnell y llun, Aubrey Arms
Disgrifiad o’r llun,

Fe darodd y llifogydd yn gyflym wedi'r glaw trwm yn ôl perchennog yr Aubrey Arms yn Ystradgynlais

Cafodd gardd Susan Thomas, sy'n byw yn ardal Cwmgiedd yn Ystradgynlais, ei difrodi yn y tywydd garw nos Fercher.

"Rwy' wedi byw yng Nghwmgiedd ers i mi gael fy ngeni," meddai.

"Mae llifogydd wedi bod cyn hyn ond dwi erioed wedi gweld yr afon mor uchel ag yr oedd neithiwr.

"Roedd bron â chodi uwchben y bont. Roedd grym yr afon yn wirioneddol frawychus."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Susan Thomas fod y tywydd nos Fercher yn "frawychus"

Cafodd ffyrdd eu cau yn sgil y glaw hefyd.

Dywedodd yr heddlu yn Abertawe bod Heol Pantlasau yn ardal Treforys wedi cau am gyfnod oherwydd llifogydd.

Ar Benrhyn Gŵyr dywedodd yr heddlu bod angen gofal ar y ffyrdd oherwydd llifogydd.

Dywedodd Heddlu De Cymru ar Twitter bod yr A4118 a'r B4295 yn wael iawn mewn mannau.

Roedd Clwb Rygbi Cwmtwrch wedi cynnig agor fel bod "unrhyw un sy'n cael eu heffeithio gan y llifogydd neu'n methu mynd adref" yn gallu mynd yna i gadw'n gynnes.

Pynciau cysylltiedig