Yr heddlu'n canfod corff yn Afon Taf yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Afon Taf

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i gorff gael ei ganfod yn Afon Taf yng Nghaerdydd brynhawn Gwener.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi cael eu galw gan aelod o'r cyhoedd am tua 15:15 yn dweud fod yr hyn oedd yn ymddangos fel corff yn yr afon.

Fe wnaeth y gwasanaethau brys fynychu, ac fe gafodd y corff ei dynnu o'r afon yn ardal Pontcanna.

Dywedodd yr heddlu bod eu hymchwiliadau yn parhau.

Pynciau cysylltiedig