Achub pump o'r môr ger Llansteffan mewn hofrennydd

  • Cyhoeddwyd
Traeth a chastell Llansteffan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gwylwyr y glannau alwad gan berson yng Nglan y Fferi yn dweud fod grŵp o bobl mewn trafferth yn y môr ger castell Llansteffan

Cafodd pump o bobl eu hachub o'r môr yn Llansteffan, Sir Gaerfyrddin, ddydd Sul.

Cafodd gwylwyr y glannau yn Aberdaugeleddau eu galw tua 15:20 gan aelod o'r cyhoedd.

Fe gafodd bad achub annibynnol Glanyfferi ei anfon hefyd ond gan fod y môr yn arw, fe fethon nhw a chyrraedd y grŵp.

Cafodd hofrennydd o Sain Tathan ei anfon hefyd.

Doedd dim angen triniaeth ar y bobl ar ôl cael eu hachub.

Mae gwylwyr y glannau Aberdaugleddau wedi rhybuddio pobl i wirio amser y llanw cyn mynd at yr arfordir.

Pynciau cysylltiedig