Y Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cael Covid am yr eildro

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r ail waith i Mark Drakeford gael ei heintio â Covid

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cael prawf positif am Covid-19 am yr eildro, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mewn datganiad dywedodd y llywodraeth fod Mr Drakeford, 68, yn gweithio o adref.

Dyma'r ail waith iddo ddal yr haint, wedi iddo hefyd gael prawf positif fis Chwefror eleni.

Mae Mr Drakeford i fod yn ymddangos yn sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn y Senedd ddydd Mawrth, ond dyw hi ddim yn glir eto a fydd rhywun yn mynychu ar ei ran neu a fydd yn ymddangos ei hun dros Zoom.

Mae cyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig hefyd yn cael ei gynnal yr wythnos hon - cyfarfod y mae'r prif weinidog fel arfer yn mynychu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Swyddfa Ystadegau yn amcangyfrif fod nifer yr heintiau Covid yng Nghymru yn gostwng ar hyn o bryd

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn amcangyfrif fod nifer yr heintiau Covid yn gostwng yng Nghymru.

Yr wythnos ddiwethaf roedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif fod gan 77,500 o bobl yr haint yma, o'i gymharu â dros 86,000 yr wythnos flaenorol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r prif weinidog yn gweithio o adref ar hyn o bryd ar ôl cael prawf positif am Covid.

"Er nad yw'n ofyniad cyfreithiol, mae'n bwysig fod unrhyw un sydd yn cael prawf positif yn ynysu tra'n gwella.

"Ry'n ni'n annog pawb sy'n gymwys i dderbyn y cynnig o frechlyn atgyfnerthu yn erbyn Covid."