Mark Drakeford wedi cael prawf positif am Covid
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn hunan-ynysu wedi iddo gael prawf positif am coronafeirws.
Daw'r newyddion ddiwrnod cyn yr oedd disgwyl i Mr Drakeford gyhoeddi adolygiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o'r cyfyngiadau Covid-19.
Yn ôl llefarydd, cafodd y Prif Weinidog brawf PCR positif. Mae'n hunan-ynysu ac yn gweithio o adref.
Dywedodd y llywodraeth mai'r Gweinidog Economi, Vaughan Gething fydd nawr yn cynnal y gynhadledd ddydd Gwener.
Mae disgwyl i Mr Gething gadarnhau y gallai deddfau sy'n ei gwneud yn ofynnol i bobl wisgo mygydau gael eu dileu'n llwyr erbyn diwedd mis Mawrth.
Mae'r rheolau yng Nghymru yn golygu bod unrhyw un sy'n cael prawf positif yn gorfod hunan-ynysu am o leiaf pum diwrnod. Does dim disgwyl i'r rheol yma newid am y tro.
Yn ystod 2020 dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi symud allan o'i gartref i amddiffyn aelodau ei deulu.
Dywedodd fod ganddyn nhw "gyflyrau difrifol" ac fe allai fod wedi achosi perygl iddyn nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2022