Rhybudd am dywydd garw dros rannau o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Menyw dan ambarelFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd tywydd melyn wedi ei gyhoeddi am wynt cryf a glaw trwm

Mae disgwyl i law trwm a gwyntoedd cryfion effeithio ar rannau helaeth o Gymru nos Lun.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn rhwng 18:00 a hanner nos.

Fe allai glaw a hyrddiadau o wynt hyd at 70mya effeithio ar y rhan fwyaf o dde, gorllewin a chanolbarth y wlad, ynghyd â rhannau o'r gogledd-orllewin.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod cenllysg, mellt a tharanau yn bosib mewn rhai mannau hefyd.

Fe ddaw ar ôl i law trwm achosi llifogydd difrifol mewn rhai ardaloedd o Gymru yr wythnos ddiwethaf.

Ffynhonnell y llun, Met Office
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr amodau stormus yn symud tua'r dwyrain fin nos

Yn ôl y Swyddfa Dywydd bydd y rhan fwyaf o bobl yn profi "amodau annymunol ac hydrefol".

Mae disgwyl peth oedi ar ffyrdd a rheilffyrdd ac i wasanaethau awyren a fferi, ac fe allai amseroedd bws a thrên gael eu heffeithio.

Mae'r Swyddfa'n galw ar bobl i gymryd gofal ar y ffyrdd oherwydd peryglon dŵr yn tasgu a llifogydd dros dro.

Ymysg y siroedd sy'n debygol o gael eu heffeithio mae Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Penfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Bro Morgannwg.

Pynciau cysylltiedig