Poen a dicter: Gŵr yn cofio'r diwrnod y bu farw ei wraig yn Wcráin
- Cyhoeddwyd
Mae llun sy'n dangos menyw feichiog yn cael ei chludo allan o ysbyty a gafodd ei fomio yn ninas Mariupol bellach yn llun eiconig o'r rhyfel yn Wcráin.
Mae'n dangos gwir arswyd yr ymladd.
Ond am amser hir, doedd neb yn gwybod pwy oedd y fenyw na chwaith be' ddigwyddodd ar ôl i'r llun gael ei dynnu.
Ei henw oedd Irina Kalinina.
Wedi'r ymosodiad, cafodd Irina ei throsglwyddo i'r ysbyty rhanbarthol ble cafodd doriad Cesaraidd brys, ond bu farw ei babi yn y groth, ac yna bu farw Irina o'i hanafiadau.
'Y person gorau i fi'
Bellach mae gŵr Irina, Ivan Kalinina, yn byw ym Mhorthcawl yn ne Cymru.
"Roedd hi'n caru bywyd. Roedd hi'n hapus. Roedd hi'n uchelgeisiol a hi oedd y person gorau i fi," meddai Ivan.
Roedd Irina yn rheolwr siop ddillad ym Mariupol ac roedd hi ac Ivan yn edrych ymlaen at groesawu eu babi cyntaf.
"Pan gawsom wybod ei bod hi'n feichiog, roedd y ddau ohonom ni wir yn hapus," meddai.
"Roedden ni wedi bod yn aros am fabi am amser hir ac o'r diwedd ro'n ni'n cael babi."
Fe benderfynodd Ivan ac Irina enwi'r bachgen bach yn Miron, sy'n golygu heddwch yn iaith Rwsieg.
'Allwn i ddim credu'
Bu Ivan yn beiriannydd yn y gwaith dur ym Mariupol, ac mae'n cofio'r foment y clywodd y newyddion am be' ddigwyddodd gan ddoctoriaid.
"Dydw i ddim yn siŵr sut i ddisgrifio'r poen a'r golled. Roeddwn i wedi siomi'n llwyr. Allwn i ddim credu ei bod hi wedi marw.
"Pan rwy'n gweld y llun o Irina rwy'n teimlo poen a dicter. Dydw i ddim yn siŵr sut i symud ymlaen."
Mae rhaglen BBC Panorama wedi siarad â meddygon wnaeth geisio achub bywyd Irina a'i babi.
Fe wnaeth Irina erfyn i beidio â chael ei hachub ar ôl dysgu bod ei babi wedi marw. Fe wnaeth y meddygon geisio achub bywyd y babi sawl gwaith.
Dywedodd Oksana Kyrsanova, anesthetydd yn Ysbyty Mariupol: "Pan gafodd y babi ei dynnu allan, doedd o ddim yn dangos unrhyw arwyddion o fod yn fyw.
"Fe welais ddagrau yn llifo lawr wynebau fy nghydweithwyr. Dyna'r peth mwyaf dychrynllyd dwi erioed wedi gweld yn fy mywyd. Pacio menyw ifanc mewn i fag du gyda'i babi, a gosodon ni ef ar ei bron."
'Dwi'n lwcus i fod yma'
Cafodd Irina a'i babi eu claddu gyda'i gilydd mewn mynwent ym Mariupol.
Ond roedd ei rhieni hi eisiau iddyn nhw gael eu claddu yn nes atyn nhw, felly symudon nhw Irina a'r babi yn nes at eu pentref, meddai Ivan.
Erbyn hyn mae Ivan yn byw ym Mhorthcawl, ac mae wedi derbyn trwydded i allu dechrau gweithio.
"Mae bywyd yng Nghymru yn iawn, normal. Mae pobl yn garedig iawn a wastad yn barod i helpu. Dwi'n lwcus i fod yma," meddai.
"Dwi'n gobeithio dod o hyd i swydd a cheisio symud ymlaen gyda fy mywyd."
Ond mae Ivan yn dweud ei fod yn ei gweld hi'n amhosib dychmygu dyfodol heb Irina.
"Does gen i ddim llawer o obaith am y dyfodol ar hyn o bryd. Dydw i heb ddod i arfer gyda'r ffaith mod i ar fy mhen fy hun.
"Yr unig obaith i mi nawr yw ceisio dod o hyd i swydd a cheisio cario 'mlaen gyda fy mywyd."
'Meddwl bod y Rwsiaid yn frodyr i ni'
Erbyn hyn mae swyddogion Wcráin yn amcangyfrif bod o 25,000 o bobl wedi marw yn yr ymladd yn ninas Mariupol ers dechrau'r rhyfel.
Pan ofynnwyd beth oedd neges Ivan i Vladimir Putin, dywedodd: "Roeddwn yn meddwl bod y Rwsiaid yn frodyr i ni, ond wnaethon nhw ymosod arnom ni.
"Mae Putin wedi ein lladd ni, mae wedi lladd ein teuluoedd, ein ffrindiau, ond am beth? Pam?"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2022
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2022