Cymro Blaenrhondda yn cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr
- Cyhoeddwyd
Cyhoeddwyd carfan bêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd Qatar o fro mebyd y rheolwr Rob Page ym Mhendyrus yng Nghwm Rhondda ar 9 Tachwedd.
Rygbi ydi'r gamp fyddai rhywun yn ei chysylltu gyda'r rhan yma o Gymru fel arfer - gyda'r mwyafrif o bêl-droedwyr enwog y de yn dod o Gaerdydd, Abertawe neu Gasnewydd. Er hynny, mae'r ardal yma'n fwy ffrwythlon o ran ei chyfraniad i fyd y bêl gron nac y byddai rhywun yn ei ddychmygu.
Yn Nhon Pentre, sydd wedi ei leoli bum munud fyny'r lôn o Bendyrus, ganwyd y chwedlonol Jimmy Murphy - rheolwr Cymru yng Nghwpan y Byd 1958.
Ond mae 'na reolwr Cymreig arall o'r un filltir sgwar yng Nghwm Rhondda sy'n cadarnhau fod pêl-droed yno o hyd.
Dim ond tair milltir o Pentre a saith milltir i'r gogledd o Bendyrus, mi ddowch ar draws pentref bach glofaol Blaenrhondda wedi ei wasgu yng nghysgod Mynydd y Bwlch a Rhigos.
Dyma bentref genedigol Nathan Jones, 49, y Cymro sydd newydd gael ei benodi yn reolwr newydd Southampton F.C yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Rheolwr Cymreig arall yn yr Uwch Gynghrair
Mae Jones wedi creu enw mawr iddo'i hun yn y byd pêl-droed yn ddiweddar wedi cyfnod llwyddiannus dros ben gyda Luton Town yn y Bencampwriaeth.
Arweiniodd y clwb i rownd gyn-derfynol y gemau rhagbrofol llynedd ble collwyd i Huddersfield Town mewn ciciau o'r smotyn.
Yn ei gyfnod gyda Luton fe ddaeth y clwb yn rhyw fath o nyth i rai o chwaraewyr Cymru gyda Joe Morrell, Rhys Norrington-Davies, a Tom Lockyer - sydd dal yno - yn chwarae rhan mawr yn nhîm y rheolwr. Bu John Hartson a Mark Pembridge yn chwarae yn Kenilworth Road am gyfnodau yn y '90au hefyd.
Wrth gymryd yr awenau gan Ralph Hasenhüttl yn Southampton bydd Nathan Jones yn ymuno â Chymro arall, Steve Cooper - sy'n rheoli Nottingham Forest, yn Uwch Gynghrair Lloegr.
A dyfalwch o ble mae Cooper yn dod? Pontypridd. Ia, enw arall i glampio cyfraniad y rhan yma o Gymru i bêl-droed, a hynny ar y lefel uchaf.
Fel Cooper, mi fydd Jones yn dilyn ôl traed rheolwyr eraill Cymreig fel Mark Hughes, Tony Pulis, Mike Walker, Chris Coleman, Ryan Giggs, Alan Curtis, a Peter Shreeves sydd wedi rheoli timau'r gynghrair yn eu tro.
O Faesteg i Southampton F.C
Dechreuodd Nathan Jones ei yrfa bêl-droed gyda'i glybiau lleol fel Maesteg, Ton Pentre a Merthyr Tydfil. Chwaraeodd i Luton Town yn 1995 cyn treulio dau dymor yn Sbaen gyda Badajoz a Numancia.
Dychwelodd i Loegr i ymuno â Southend United cyn cael gyrfa lwyddiannus fel canolwr a chefnwr chwith i Brighton & Hove Albion a Yeovil rhwng 2000 a 2012.
Yn 2016 fe ail ymunodd gyda Luton Town fel rheolwr, a gyda hwythau yng ngwaelodion yr Ail Adran, roedd hi'n dasg oedd am brofi'n heriol iawn iddo.
Ond yn rhyfeddol llwyddodd y Cymro i godi Luton Town i'r Adran Gyntaf yn 2018. Mi adawodd y clwb yn ail safle'r gynghrair yn 2019 ac ymuno â Stoke City, cam mae'n ei "ddifaru" wrth edrych yn ôl.
Wedi cyfnod anodd yng ngogledd Lloegr dychwelodd i Luton i ail gynnau'r fflam. Llynedd fe ddaeth yn agos at gael dychafiad i Uwch Gynghrair Lloegr ac yn sgil hynny y Cymro o Flaenrhondda gafodd ei enwi yn Reolwr y Flwyddyn yn y Bencampwriaeth.
Crefydd
Un elfen o'i fywyd mae Nathan Jones yn dweud sydd wedi cadw ei draed ar y ddaear ydy Cristnogaeth, yn enwedig gyda bywyd ym myd pêl-droed yn gallu bod yn droellog ac ansefydlog.
Ar ei freichiau ac ar hyd ei gefn mae ganddo datŵs o'r groes, o Iesu Grist a darlun Michaelangelo o 'Greuad Adda'.
Bydd cyrhaeddiad y Cymro i Uwch Gynghrair Lloegr yn cryfhau lle Cymru ar fap pêl gron y byd ac yn talu teyrnged i feithrinfa bêl-droed sgwar fach Pendyrus, Blaenrhondda, Pentre a Pontypridd yn y Cymoedd.
Wrth edrych tua'r dyfodol, pwy a ŵyr, efallai mai Jones neu Cooper fydd un o reolwyr nesaf y tîm cenedlaethol? Amser yn Uwch Gynghrair Lloegr a ymddengys.