Cymru 1-1 Y Ffindir

  • Cyhoeddwyd
Carrie JonesFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Carrie Jones yn gwenu ar ôl rhoi Cymru ar y blaen yn erbyn Y Ffindir

Yn eu her olaf eleni, cyfartal oedd y sgôr wrth i Gymru wynebu'r Ffindir mewn gêm gyfartal yn Stadiwm Pinatar yn Sbaen.

Tîm Gemma Grainger oedd ar y blaen wedi gôl Carrie Jones yn yr hanner cyntaf, ond fe ddaeth y gwrthwynebwyr yn gyfartal yn yr ail hanner trwy gic o'r smotyn.

Ond doedd Cymru ddim ar eu gorau a'r Ffindir - sydd un safle'n uwch na Chymru yn rhestr detholion y byd - oedd yn ymddangos yn fwy tebygol o allu cipio buddugoliaeth gyda gôl hwyr.

Daeth cyfle cyntaf Cymru o fewn tri munud pan gafodd foli Jess Fishlock o groesiad Rachel Rowe ei atal, ond roedd angen i'r amddiffyn fod yn gadarn wrth i'r gwrthwynebwyr bwyso arnyn nhw.

Nhw oedd yn cael y gorau arni yn gyffredinol, er nad oedd yr un cyfle'n ddigon agos i boeni'r golwr Laura O'Sullivan lawer, hyd nes i Linda Sallstrom ganfod gofod ar ochr dde'r maes.

Roedd ei hergydiad o ymyl y cwrt chwech yn anelu at gefn y rhwyd nes i O'Sullivan wthio'r bêl i ffwrdd.

Llwyddodd Cymru i ddal gafael ar y bêl yn well wedi hynny, er yn eu hanner eu hunain gan amlaf, cyn i Fishlock greu cyfle gwirioneddol cyntaf Cymru.

Camodd heibio Eveliina Summanen ar ochr dde'r cae a chroesi'n isel i Carrie Jones ei tharo'n ysgafn wrth y post pellaf. Wedi 31 o funudau roedd Cymru gôl ar y blaen a gwella eto wnaeth eu perfformiad weddill yr hanner cyntaf.

Ail hanner mwy ansicr

Parhau ar yr un nodyn wnaethon nhw ar ddechrau'r ail hanner, ond roedd yna gyfnod wedi hynny o gamgymeriadau wrth drin y bêl.

Yna, drwy anffawd, fe darodd y bêl fraich yr amddiffynnwr Rhiannon Roberts yn y cwrt cosbi, ac fe roddodd y dyfarnwr gic gosb i'r gwrthwynebwyr.

Summanen wnaeth ei chymryd gan ei tharo'n bendant a digyffro i lawr y canol, wrth i Olivia Clark, a ddaeth ymlaen yn lle O'Sullivan, symud i'r chwith.

Wedi 70 o funudau roedd y gêm yn gyfartal, ac ar ôl ildio gôl dan y fath amgylchiadau roedd chwarae Cymru ychydig yn ansicr a phrin oedd y cyfleoedd i geisio sgorio.

Roedd Y Ffindir yn fwy ymosodol ac fe roedd ergyd Katarina Kosola o bell yn ddigon agos i achosi cryn fraw.

Ond ni lwyddodd hwythau 'chwaith i ychwanegu at y sgôr a bu'n rhaid i'r ddau fodloni ar gêm gyfartal.