Rhybudd am law wedi'r diwrnod cynhesaf ym Mhorthmadog
- Cyhoeddwyd
Bu rhybudd am law trwm mewn mewn grym i Gymru ddydd Mawrth, wedi i'r tymheredd cynhesaf erioed ar gyfer yr adeg yma o'r flwyddyn gael ei gofnodi yng Ngwynedd dros y penwythnos.
Fe wnaeth y tymheredd gyrraedd 21.2C ym Mhorthmadog ar Sul y Cofio - y diwrnod poethaf erioed yn y DU mor hwyr â hyn yn y flwyddyn.
Mae'n torri'r record flaenorol - oedd hefyd wedi'i osod yng Ngwynedd, ym mhentref Aber yn 1989 - o dros ddwy radd.
Mewn mis Tachwedd cyffredin byddai disgwyl i'r tymheredd yn y DU fod rhwng 4C a 10C.
Ond mae'r Swyddfa Dywydd yn disgwyl i'r hydref twym ddod i ben yr wythnos hon, gan ddychwelyd i dymereddau y bydden ni'n disgwyl fel arfer ar gyfer yr adeg yma o'r flwyddyn.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Gyda hynny, fe wnaeth y Swyddfa Dywydd roi rhybudd am law trwm mewn grym i rannau helaeth o dde Cymru ddydd Mawrth.
Roedd y rhybudd yn weithredol rhwng hanner nos a 13:00 ar gyfer 14 o siroedd - Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr, Sir Fynwy, Merthyr Tudful, Pen-y-bont, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai glaw trwm arwain at lifogydd ac amharu ar drafnidiaeth.
Beth sy'n achosi hyn?
Dadansoddiad y cyflwynydd tywydd, Alex Humphreys
Mae'r tywydd wedi bod yn fwynach na'r arfer yn ddiweddar. 21.2C ym Mhorthmadog ddydd Sul, sef yr uchaf ar gofnod mor hwyr â hyn yn y flwyddyn. Er yn anarferol, mae'n digwydd bob hyn a hyn.
Yn 2015 fe wnaethon ni weld 22.4C ar 1 Tachwedd. Y rheswm am y tywydd mwyn y tro 'ma yw'r jetlif - y rhuban o aer cyflym sy'n rhedeg uwchben y ddaear. Mae lleoliad y jetlif wedi bod i'r gogledd, sydd wedi galluogi i aer mwyn symud draw o'r Azores.
Yr wythnos hon, mae'r jetlif yn newid lleoliad felly mi fyddwn ni'n gweld y tymheredd yn gostwng rhywfaint - yn mynd yn agosach at yr arfer adeg yma'r flwyddyn.
Hefyd, mae 'na fand o law trwm yn symud ar draws y wlad nos Lun, gyda gwyntoedd cryfion, a rhybudd melyn o law mewn grym yn y de o hanner nos tan 13:00.
System enfawr o wasgedd isel sy'n gyfrifol am y tywydd ansefydlog yr wythnos hon - mi fyddwn ni'n gweld ffrynt ar ôl ffrynt o law yn ein cyrraedd ni.
Felly er bod y tywydd mwyn wedi bod yn anarferol, mae 'na esboniad amdano - sef lleoliad y jetlif a'r system enfawr o wasgedd isel sydd yn symud draw o Fôr yr Iwerydd.