Aberystwyth: Hedfan plentyn i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Penglais

Mae plentyn wedi ei hedfan i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad gyda char tu allan i ysgol yng Ngheredigion.

Fe ddigwyddodd tu allan i Ysgol Penglais, Aberystwyth, tua 15:20 brynhawn Llun.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans bod dau gerbyd wedi eu hanfon i'r digwyddiad.

Dywedodd y llefarydd bod un person wedi ei gludo i Ysbyty Bronglais am driniaeth.

Roedd y ffordd tu allan i'r ysgol ar gau i draffig am rai oriau wrth i swyddogion heddlu barhau ar y safle.

Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys.

Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud eu bod yn cydweithio gyda'r heddlu a'r ysgol yn dilyn y digwyddiad.

"Rydym yn cael ein diweddaru am gyflwr y disgybl a bydd yr ysgol yn darparu cymorth i'r rheiny yr effeithiwyd arnynt," meddai llefarydd.

Pynciau cysylltiedig