Costau byw: 'Dŵr i'r mab gan fod squash yn rhy ddrud'

  • Cyhoeddwyd
Claire a Wayne
Disgrifiad o’r llun,

Mae Claire a Wayne yn dweud bod y pwysau cynyddol yn straen arnynt fel teulu

"Ar y funud mae pethau'n really caled, 'dan ni'n methu fforddio prynu'r siopio a sortio rhent… ma'n anodd, yn impossible ar y funud."

Gyda phrisiau bwyd, biliau ynni a thanwydd wedi cynyddu'n sylweddol dros y misoedd diwethaf, mae teuluoedd ledled Cymru yn wynebu heriau digynsail.

Ddydd Iau, fe gyhoeddodd y Canghellor Jeremy Hunt y bydd llawer o bobl yn talu mwy mewn treth, a bod y Deyrnas Unedig, yn swyddogol, mewn dirwasgiad.

Yn eu tŷ rhent yng Nghaernarfon, mae Wayne a Claire yn sôn am effaith hyn oll ar eu teulu nhw.

"I ddechrau, mi oeddwn i'n gallu gwario £20 ar siop, rŵan dwi'n gwario £80," meddai Claire.

Wrth gerdded rownd eu cegin fe ddisgrifiodd Wayne effaith y cynnydd mewn costau.

"Wel, ma' 'na just llai o fwyd oherwydd bod o'n costio mwy," meddai.

"Mae'r mab yn licio ei squash ond ar y funud 'dan ni just yn rhoi dŵr iddo gan fod ni methu fforddio fo."

Yn ôl Wayne, mae'r teulu yn troi at fanciau bwyd am gymorth er mwyn lleddfu pwysau ar eu siopa wythnosol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu wedi bod yn defnyddio banc bwyd er mwyn helpu gyda'u harian

Un o'r prif heriau mae'r teulu'n ei wynebu ydy costau ynni a chadw'r cartref yn gynnes.

"Rhent, electric, dŵr - y main things fel'a 'dan ni'n strugglo efo, a bwyd wedyn ar ei ben a dim llawer o bres i dalu amdano - 'dan ni'n jugglo i 'neud yn siŵr bo' ni efo to dros ein pennau," medd Wayne.

'Panic attacks a gorbryder'

Wrth i'r teulu geisio cadw at gyllideb dynn, mae Claire yn sôn am yr effaith ar ei hiechyd meddwl.

"Mae hyn i gyd yn triggero anxiety fi, sy'n neud i mi gael panic attacks. Ddoe o'n i gorfod mynd i weld doctor i gael tabledi eraill i gadw'r stress i lawr."

Wrth gerdded o gwmpas y cartref, dangosodd Wayne rai o'r trafferthion eraill maen nhw'n eu hwynebu - sef ansawdd a chyflwr eu cartref y mae nhw'n talu rhent amdano.

Yn yr ystafell gefn, mae rhan o'r llawr yn gollwng i'r ddaear, papur wal yn disgyn ac ôl tamprwydd ar y wal allanol.

Wrth gerdded i'r gegin lle'r oedd y peiriant golchi dillad ymlaen, dywedodd Wayne fod y teulu yn gorfod defnyddio lot o drydan er mwyn cadw dillad y plant yn lân.

"'Dan ni'n iwsio lot o electric a gas, gas i gadw'r lle yn gynnes ac electric i olchi dillad y plant.

"Golau, teledu, wedyn y cooker... hwn sy'n defnyddio'r mwya' o eletric," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

'Nôl yn yr ystafell fyw, fe soniodd Claire am yr her o gadw at gyllideb: "Ar y funud, 'mond un meal y diwrnod 'dan ni'n gallu fforddio, weithia' 'da ni'n cael brecwast ond dwi ddim berson brecwast felly mond un dwi'n bwyta.

"Dwi fod i fwyta mwy gan fod i efo lefel isel [fitamin] B12."

Gyda'u dau o blant wedi dod i eistedd ar y soffa gyda'u rhieni, mae Wayne a Claire yn sôn am eu teimladau wrth edrych tua'r dyfodol.

"Wel, 'dan ni'n trio bod yn bositif at bob dim," meddai Wayne.

"'Dan ni'n gobeithio 'neith bethau wella, gobeithio ga' i swydd a just gobeithio bydd pethau yn gwella."

'Dio'm yn lot i ofyn'

Gyda Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi eu cynllun ariannol i fynd i'r afael â'r heriau hyn, mae'r ddau riant o Gaernarfon yn dweud eu bod nhw am weld newid.

"Mae angen boostio Universal Credit i fynd efo'r newidiadau mawr sydd yn y prisiau - fuel, bwyd a rhent, i compensatio am y high costs," meddai Wayne.

Wrth edrych tua'r dyfodol, dywed Claire a Wayne eu bod wir eisiau sicrhau fod y teulu yn teimlo yn fwy sefydlog o ran y darlun ariannol.

"Dwi just isio' bod bach mwy cyfforddus, dio'm yn lot i ofyn nadi?"

Disgrifiad o’r llun,

Fe gyflwynodd Jeremy Hunt gynllun ariannol Llywodraeth y DU ddydd Iau

Yn y cyfamser, mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud ei fod yn "ofnus" am effaith cynllun y Canghellor ar fywydau pobl yng Nghymru.

Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn poeni y byddai Cymru'n cael ei hamddifadu o arian hanfodol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw i'w "cael trwy gyfnod anodd".

'Hyd yn oed yn fwy anodd'

Dywedodd Mr Drakeford, cyn i Mr Hunt wneud ei ddatganiad, ei fod yn "fwy ofnus na gobeithiol, mae gen i ofn" bod Datganiad yr Hydref "yn digwydd ar adeg llwm yn hanes economaidd y Deyrnas Unedig".

"Mae'r effaith ar fywydau unigolion a theuluoedd yng Nghymru eisoes yn amlwg - cyflogau'n cael eu dal i lawr, prisiau'n codi ym mhob ffordd," meddai wrth BBC Cymru.

"Ac rwy'n ofni yn Natganiad yr Hydref efallai y byddwn yn dysgu y gallai'r buddsoddiad sydd ei angen yn y gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl yn dibynnu arnynt i'w cael drwy'r cyfnod anodd hwnnw gael ei wrthod i ni yma yng Nghymru.

"Mae ein cyllideb y flwyddyn nesaf werth £1.5bn yn llai nag yr oedd pan osododd y llywodraeth Geidwadol hi ym mis Tachwedd y llynedd.

"Oni bai bod Datganiad yr Hydref yn darparu cyllid i wneud yn iawn am effaith chwyddiant ar y gyllideb sydd gennym ar hyn o bryd, yna mae ein gallu ni, gallu ein partneriaid mewn llywodraeth leol ac mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth cyhoeddus, i ddarparu'r pethau sydd o bwys i bobl ar adegau anodd, mae hynny'n mynd i gael ei wneud hyd yn oed yn fwy anodd."

Dywedodd Mr Hunt y bydd ei gynllun yn "mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ac ailadeiladu ein heconomi" ac mai "sefydlogrwydd, twf a gwasanaethau cyhoeddus yw blaenoriaethau Llywodraeth y DU".

Pynciau cysylltiedig