Costau byw: 'Diffodd y golau i arbed arian wrth ofalu am Mam'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Mae Mam yn poeni am gael gwres 'mlaen, golau 'mlaen'

Bob dydd ers tair blynedd, mae Ceri Higgins wedi bod yn gofalu am ei mam sydd â phroblemau iechyd gwahanol.

"Mae'n lot o straen," meddai, "ond yn amlwg ni'n rhoi'r gefnogaeth am ein bod ni'n caru ein teuluoedd."

Mae Ceri, sy'n dod o Donteg yn Rhondda Cynon Taf, yn un o dros hanner miliwn o ofalwyr di-dâl yng Nghymru.

Mae yna alwadau iddyn nhw gael rhagor o gymorth i'w helpu drwy'r argyfwng costau byw.

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n darparu cefnogaeth "anferthol" i ofalwyr drwy ddarparu grantiau gwahanol.

Mae Ceri yn helpu ei mam i symud, ei bwydo a rhoi meddyginiaethau iddi ymysg pethau eraill. Cyn hynny, bu'n gofalu am ei thad am 15 mlynedd.

"Dwi ar alwad 24 awr y dydd ac mae'r nosweithiau yn clymu i mewn i un," meddai.

"Ar ôl bod yno drwy'r dydd a gadael a dod adref, weithiau mae'r larwm yn mynd, mae'r lifeline yn mynd felly mae'n rhaid i fi fynd yn ôl [ati].

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r argyfwng costau byw'n gwaethygu pryderon Ceri fel gofalwr di-dâl

Bellach mae Ceri yn astudio gradd iechyd a gofal cymdeithasol drwy'r Brifysgol Agored.

"Mae [gofalu] wedi newid fy mywyd i a bendant wedi newid pwy ydw i," ychwanegodd.

"Dwi heb gael yr un cyfleoedd â phobl eraill a ddim yn gallu cymdeithasu yn yr un ffordd.

"Fi ddim yn cysgu oherwydd pryderon bod mam yn OK."

'Diffodd y golau a'r teledu'

Gyda chostau bywyd bob dydd yn cynyddu, mae'n rhaid torri'n ôl.

Er mwyn arbed arian dydyn nhw ddim yn rhoi'r teledu ymlaen yn nhŷ ei mam mor aml na'r golau chwaith.

Yn ôl Ceri mae'r argyfwng costau byw yn rhoi pwysau ychwanegol arnyn nhw fel teulu, ac mae hi'n gofyn: "Ble mae'r help yn dod i dalu am y biliau yna?"

Mae hi hefyd yn ddibynnol ar aelodau eraill o'i theulu i'w helpu gyda'r costau cynyddol.

"Fi'n goro' ymddiried ar bobl eraill i gefnogi fi'n ariannol sydd yn beth ofnadwy rili i orfod dibynnu ar rywun arall achos bo' chi ffaelu cefnogi'n hunan yn ariannol. Mae'n straen ofnadwy."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae gwaith ymchwil ar ran Gofalwyr Cymru, elusen sy'n cefnogi gofalwyr di-dâl yng Nghymru, yn amcangyfrif bod tua 23% o oedolion Cymru (584,134) yn gofalu am aelod o deulu neu ffrind oherwydd cyflyrau cronig.

Cyn y pandemig, maen nhw hefyd yn credu bod gofalwyr di-dâl yn arbed £8.1bn i Gymru bob blwyddyn gan eu bod yn rhoi gofal y byddai'n rhaid i wasanaethau gofal a chymdeithasol ddarparu fel arall.

Mae Gofalwyr Cymru yn dadlau y dylai cefnogi gofalwyr fod yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a'r Deyrnas Unedig.

"Os nad ydyn nhw yn gallu cario ymlaen i ofalu bydd effaith enfawr ar wasanaethau statudol dros Gymru," meddai Beth Evans, swyddog polisi'r elusen.

"Mae o ddiddordeb i bawb i ofalu am ofalwyr a gwneud yn siŵr bod y gefnogaeth a'r gefnogaeth ariannol yna i alluogi nhw i barhau yn eu swyddi."

Mae'r elusen, sy'n rhan o Ofalwyr y Deyrnas Unedig, wedi gwneud nifer o argymhellion i'r ddwy lywodraeth.

Rhan o hynny yw ceisio sicrhau bod 'na gefnogaeth i ofalwyr a'u bod nhw'n cael eu hystyried fel grŵp sy'n flaenoriaeth ac o dan risg yn holl strategaethau a pholisïau gwrth dlodi Llywodraeth Cymru.

'Cydnabod rôl gwerthfawr gofalwyr'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n darparu cefnogaeth "anferthol" i ofalwyr di-dâl yng Nghymru, er enghraifft darparu taliad o £500 i'r rheiny sy'n derbyn Lwfans Gofalwyr.

"Ry'n ni hefyd yn darparu grantiau o hyd at £300 y flwyddyn drwy'r gronfa Cefnogi Gofalwyr yn ogystal â £200 i helpu gyda chostau tanwydd," ychwanegodd.

"Dyw'r brif gefnogaeth i ofalwyr di-dâl - y Lwfans Gofalwyr - heb ei ddatganoli.

"Ry'n ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i geisio gwneud newidiadau i Lwfans Gofalwyr fel bod mwy o bobl yn gymwys."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Ry'n ni'n cydnabod rôl werthfawr gofalwyr di-dâl ac ry'n ni wedi ein hymrwymo i'w helpu yn ariannol, yn ogystal â'u hiechyd, lles a chyfleodd gwaith.

"Mae Credyd Cynhwysol yn cynnwys elfen i ofalwr sydd werth mwy na £160 y mis ac ers 2010 ry'n ni wedi cynyddu y Lwfans Gofalwyr, gan roi £700 yn ychwanegol yn eu bocedi.

"Mae'r rheiny sy'n derbyn Lwfans Gofalwyr hefyd yn gallu derbyn rhagor o gefnogaeth, gan gynnwys budd-daliadau."