Datganiad yr Hydref: Trethi a biliau ynni i gynyddu

  • Cyhoeddwyd
Dywedodd Mr Hunt ei fod yn amddiffyn y "mwyaf bregus".Ffynhonnell y llun, Ty'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Hunt ei fod yn amddiffyn y "mwyaf bregus"

Bydd llawer o bobl yn talu mwy mewn treth wedi Datganiad yr Hydref y Canghellor Jeremy Hunt.

Bydd y trothwy lwfans personol yn cael ei gadw ar £12,570, a bydd y gyfradd uwch yn aros ar £50,270, tan 2028.

Bydd hynny'n golygu bod mwy o bobl yn dechrau talu treth wrth i incwm gynyddu gyda chwyddiant.

Hefyd fe fydd y pwynt pan fydd pobl gyda'r incwm uchaf yn dechrau talu'r gyfradd dreth uchaf yn gostwng o £150,000 i £125,000.

"Bydd y rhai sy'n ennill £150,000 neu fwy yn talu ychydig dros £1,200 yn fwy y flwyddyn," meddai Mr Hunt.

Cyn y datganiad, disgrifiodd teulu o Gaernarfon yr heriau wrth ymdopi gyda chostau uwch bwyd, ynni a rhent.

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y bydd y cynlluniau'n "rhoi mwy o bwysau ar filiynau o bobl".

Cyhoeddodd Mr Hunt hefyd gynnydd o 10% ym mhensiwn y wladwriaeth, budd-daliadau a chredydau treth - yn unol â ffigwr chwyddiant mis Medi.

Bydd cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol o'r lefel bresennol o £9.50 yr awr i rai dros 23 oed.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Llywodraeth y DU yn lleihau lefel y cymorth ar gyfer biliau ynni o fis Ebrill ymlaen

Bydd cartrefi hefyd yn talu mwy mewn biliau ynni o fis Ebrill ymlaen, gyda biliau cartref arferol yn codi o £2,500 i £3,000 wrth i Lywodraeth y DU leihau lefel y cymorth.

Ond bydd taliadau ychwanegol hefyd: £900 i'r rhai ar fudd-daliadau prawf modd, £300 i aelwydydd pensiynwyr a £150 i'r rhai ar fudd-daliadau anabledd.

Mae'r Canghellor Jeremy Hunt wedi cadarnhau y bydd y diwydiant ynni yn wynebu treth ffawdelw estynedig o 35% - i fyny o 25%.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd Mr Hunt gynnydd o 10% ym mhensiwn y wladwriaeth

Mae prif drothwyon Yswiriant Gwladol a threth etifeddiant hefyd wedi'u rhewi am ddwy flynedd bellach, tan fis Ebrill 2028.

Mae lwfansau di-dreth ar gyfer difidendau a threth enillion cyfalaf i'w torri y flwyddyn nesaf ac yn 2024.

Ni fydd cerbydau trydan yn cael eu heithrio rhag Treth Cerbyd o fis Ebrill 2025 i wneud y system treth foduro yn "decach", medd y Canghellor.

Arian ychwanegol i Gymru

Mae'r ffordd y mae cyllid yn gweithio yn y DU yn golygu bod cynnydd mewn gwariant ar gyfer y GIG yn Lloegr a gofal cymdeithasol yn sbarduno arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru.

Gall ei wario ar y GIG a gofal cymdeithasol, ac unrhyw beth arall yr hoffai ei wneud.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd gan weinidogion Cymru £1.2bn ychwanegol i'w wario dros ddwy flynedd, o 2023-2024 i 2024-25.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio ei bod yn wynebu toriad termau real o £1.5bn yn ei chyllideb erbyn 2024 oherwydd chwyddiant.

'Pob un ohonom yn talu'

Ymatebodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford: "Mae Datganiad yr Hydref hwn yn rhoi mwy o bwysau ar filiynau o bobl sydd eisoes yn cael trafferth gyda'r argyfwng costau byw.

"Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl drwy'r cyfnod anodd hwn - ond fe fydd pob un ohonom yn talu am gamgymeriadau Llywodraeth y DU am flynyddoedd i ddod."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Rebecca Evans yn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr

Ychwanegodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, "mae'n hollol amlwg nad yw'r datganiad heddiw hyd yn oed yn dod yn agos at ddarparu'r cyllid sydd ei angen i ddiogelu cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus yn erbyn yr heriau aruthrol sy'n cael eu hachosi gan lefelau chwyddiant eithriadol o uchel.

"Byddwn ni'n dadansoddi manylion y cyhoeddiadau heddiw yn ofalus cyn ein cyllideb ym mis Rhagfyr."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, y "bydd y pwysau ar wasanaethau cyhoeddus Cymru yn parhau i waethygu ar ôl datganiad heddiw oherwydd chwyddiant.

"Ailadroddaf alwad Plaid Cymru ar i Lywodraeth y DU sefydlu comisiwn i ddiwygio'r system drethi mewn ffordd flaengar. Dyna'r unig ffordd o ddarparu cyllid cynaliadwy ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus."

Meddai Jane Dodds AS, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae pob codiad treth a thoriad gwariant yn y gyllideb hon wedi digwydd oherwydd anghymhwysedd y blaid Geidwadol.

"Tra bod Boris Johnson a Liz Truss wedi malu ein heconomi, mae Cymry diwyd bellach yn cael eu gadael i godi'r darnau o'u dinistr, gan gynnwys gwasgu eu hincwm fel erioed o'r blaen a safonau byw yn gostwng."

Dywedodd llefarydd ar ran Age Cymru: "Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth y DU wedi gwrando ar bobl hŷn ac wedi penderfynu ail-osod y clo triphlyg ar Bensiynau'r Wladwriaeth."

Ffynhonnell y llun, John Lamb / Getty
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhewi trothwyon treth yn golygu y bydd miliynau o bobl yn talu mwy o dreth ar eu hincwm

Dywedodd Mr Hunt y bydd ei gynllun yn "mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ac ailadeiladu ein heconomi" ac mai "sefydlogrwydd, twf a gwasanaethau cyhoeddus yw blaenoriaethau Llywodraeth y DU".

Esboniodd mai "chwyddiant uchel yw'r gelyn" oherwydd ei fod yn arwain at brisiau uwch, "cyfraddau morgeisi uwch a methiannau busnesau... ac yn achosi aflonyddwch diwydiannol ac yn erydu arbedion".

Mae chwyddiant hefyd yn brifo'r tlotaf fwyaf, meddai Mr Hunt.

Mae'n cydnabod bod y DU bellach mewn dirwasgiad ac y bydd pethau'n gwaethygu cyn iddynt wella.

'Penderfyniadau anodd'

Mae Mr Hunt wedi cadarnhau y bydd gwasgfeydd ar wariant adrannau'r llywodraeth.

Mae'n dweud y bydd yn rhaid iddyn nhw wneud "penderfyniadau anodd i ddelio â phwysau chwyddiant yn y ddwy flynedd nesaf".

Ychwanegodd, serch hynny, y bydd gwariant cyffredinol ar wasanaethau cyhoeddus yn codi, ar ôl cyfrif am chwyddiant, am y pum mlynedd nesaf.