Pum ffordd all Datganiad yr Hydref effeithio ar eich bywyd

  • Cyhoeddwyd
Jeremy HuntFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Penderfynodd y Canghellor Jeremy Hunt ohirio'r datganiad ariannol am dair wythnos er mwyn cael gwybodaeth arbenigol yr OBR

Mae Datganiad yr Hydref yn foment all ddiffinio arweinyddiaeth Rishi Sunak - a chael effaith fawr ar ein bywydau.

Mae Mr Sunak a'i Ganghellor Jeremy Hunt yn dweud eu bod nhw eisiau adfer enw da Prydain fel gwlad sy'n gofalu am y coffrau.

Ond maen nhw hefyd eisiau adfer statws y Blaid Geidwadol gyda'r pleidleiswyr.

Y cam cyntaf oedd cael gwared ar gynlluniau eu rhagflaenwyr, Liz Truss a Kwasi Kwarteng.

Y cam nesaf yw cyhoeddi cynllun newydd i arwain y wlad trwy argyfwng costau byw a dirwasgiad.

Dyma bum peth i gadw golwg arnynt.

Trethi

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jeremy Hunt eisoes wedi rhybuddio y bydd yn rhaid i bawb dalu "ychydig yn fwy o dreth" ond mae'n addo i warchod y bobl fwyaf bregus

Am wahaniaeth. Torri trethi'n sylweddol oedd bwriad Kwasi Kwarteng, gyda'r addewid o fwy i ddod.

Nid yn unig ydy Jeremy Hunt wedi dileu hynny, ond mae'n edrych am ffyrdd o godi £20bn arall drwy drethi.

Un ffordd o wneud hynny yw rhewi'r trothwy rhwng bandiau treth incwm - a'u rhewi am gyfnod hirach.

Mae hynny'n golygu y bydd mwy o bobl mewn bandiau treth uwch wrth i gyflogau godi.

Mae'n annhebygol o fod yn boblogaidd gyda Cheidwadwyr sy'n gobeithio argyhoeddi pleidleiswyr taw nhw yw'r blaid dreth isel yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Gwariant cyhoeddus

Ffynhonnell y llun, John Lamb / Getty

Ni fydd codi treth yn ddigon i gau'r bwlch yng nghyllideb Llywodraeth y DU, sy'n peri cymaint o ofid i Mr Hunt.

Felly mae disgwyl iddo dorri gwariant hefyd.

Cafodd y marchnadoedd ariannol eu brawychu gan gynlluniau Kwasi Kwarteng, felly mae Mr Hunt eisiau dangos iddyn nhw y bydd yn mantoli'r cyfrifon.

Bydd adrannau yn Whitehall yn gorfod cadw o fewn eu cyllidebau presennol.

Oherwydd y ffordd y maen nhw'n cael eu hariannu, mae hynny'n golygu bod Llywodraeth Cymru - sy'n rheoli'r rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru - yn annhebygol o gael llawer o arian ychwanegol chwaith.

Ac yn ôl Mark Drakeford a'i weinidogion, mae angen yr arian yna arnyn nhw'n enbyd. Roedd cynnydd sylweddol yn y gyllideb i Gymru llynedd, ond mae chwyddiant wedi llyncu llawer o'r cynnydd hwnnw.

Dyna pam mae Llafur a Phlaid Cymru yn rhybuddio am gyfnod arall o lymder, tebyg i gyfnod David Cameron a George Osborne yn y 2010au pan gafodd gwariant ei dorri ar ôl yr argyfwng ariannol.

Cyflogau sector cyhoeddus

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae nyrsys wedi pleidleisio i weithredu'n ddiwydiannol am y tro cyntaf yn eu hanes

Efallai taw hon yw'r broblem anoddaf sy'n wynebu Mr Hunt.

Os nad yw gwasanaethau cyhoeddus yn cael rhagor o arian, sut maen nhw'n mynd i dalu'r cyflogau sydd eu hangen ar staff i ymdopi â chostau cynyddol?

Naill ai fydd rhaid torri'n ôl rhywle arall, neu fe fydd gweithwyr yn wynebu toriadau mewn safonau byw.

Mae'n ben tost mawr i Lywodraeth Cymru. Mae nyrsys yng Nghymru wedi pleidleisio i fynd ar streic ar ôl i Lywodraeth Cymru gynnig cyflog sy'n is na chwyddiant. Bydd athrawon yn pleidleisio ar streicio hefyd.

Bydd Gweinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans, yn cyhoeddi ei chyllideb ar 13 Rhagfyr.

Fe fydd ei gallu hi i dalu cyflogau nyrsys, athrawon a staff eraill yn y sector cyhoeddus yn dibynnu i raddau helaeth ar yr hyn y mae Mr Hunt yn ei ddweud yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Iau.

Pensiynau a budd-daliadau

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dan y 'clo triphlyg' mae'r pensiwn gwladol yn codi'n flynyddol ar sail chwyddiant, cynnydd mewn cyflogau neu 2.5%, gan ddibynnu pa un o'r tri yw'r uchaf

Mae mwy na 600,000 o bobl yng Nghymru yn cael pensiwn y wladwriaeth. Mae tua 60,000 yn derbyn budd-daliadau am eu bod allan o waith.

Mae eu tynged nhw wedi dod yn brawf allweddol o'r llywodraeth Geidwadol hon.

A ddylai'r taliadau yma godi yn unol â chwyddiant neu a ddylen nhw gael eu gwasgu er mwyn arbed rhywfaint o arian i'r Trysorlys?

Mae'n edrych yn debygol iawn y bydd Mr Hunt yn gwarchod budd-daliadau a phensiynau rhag chwyddiant.

Os ddim, gall fod yn sicr o wynebu llawer o feirniadaeth, gan gynnwys o'i blaid ei hun.

Ynni

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae biliau ynni'n codi o ganlyniad i'r argyfwng costau byw

Ymrwymodd Liz Truss i helpu pobl gyda biliau nwy a thrydan am ddwy flynedd, ond newidiodd Mr Hunt hynny.

Bydd y warant pris ynni presennol - sy'n golygu na fydd cartref arferol yn talu mwy na £2,500 y flwyddyn - yn dod i ben ym mis Ebrill, ac yn cael ei disodli gan gynllun wedi ei dargedu ar y bobl â'r angen mwyaf am gymorth.

Dywed Mr Hunt y bydd cost y cynllun newydd i'r trethdalwr yn "sylweddol lai" - sy'n golygu y bydd rhai cwsmeriaid yn debygol o dalu mwy.