Myfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd i ddysgu sgiliau Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Bydd pob myfyriwr meddygol ail flwyddyn Prifysgol Caerdydd yn cael hyfforddiant gorfodol ar gyfathrebu yn Gymraeg.
Y bwriad ydy eu galluogi i drin cleifion drwy gyfrwng yr iaith pan fyddan nhw ar leoliad gwaith mewn ysbyty.
Mae'n rhan o gynllun peilot i geisio gwella lles, canlyniadau a dealltwriaeth cleifion mewn ysbytai drwy Gymru.
Ers 2015, mae myfyrwyr meddygol y brifysgol wedi gallu astudio ar gyfer eu gradd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae ymchwil yn dangos fod trin cleifion yn eu mamiaith yn rhoi gwell canlyniadau.
Yn ôl yr ysgol feddygol, nod y fenter ydy cyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau bod cleifion yn cael cynnig triniaeth yn Gymraeg, heb orfod gofyn amdani.
Dywedodd Awen Iorwerth, darlithydd clinigol yn yr ysgol feddygol: "Rydym yn gwybod fod derbyn gofal gan rywun sy'n cydnabod ac - o bosib - yn siarad eich mamiaith yn arwain at ganlyniadau a boddhad gwell.
"Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod myfyrwyr meddygol sydd â sgiliau Cymraeg yn fwy tebygol o aros a gweithio yng Nghymru ar ôl graddio.
"Mae'r brifysgol yn ceisio sicrhau bod y rhaglen beilot hon yn cael ei sefydlu yn rhan o hyfforddiant meddygol erbyn 2023.
"Y nod yn y pen draw ydy gwella profiad cleifion o ofal iechyd a lleihau gorbryder, yn ogystal ag annog y myfyrwyr i aros yng Nghymru, i wasanaethu poblogaeth ddwyieithog ar ôl iddyn nhw raddio."
Derbyn help actorion
"Gall cyfarch cleifion yn y Gymraeg fod o fudd nid yn unig i'r claf ond i'r myfyriwr ar leoliad gwaith, hefyd", meddai Sara Vaughan, rheolwr datblygu'r Gymraeg yn yr ysgol feddygol.
"Drwy wneud hyfforddiant o'r fath yn rhan o'n cwricwlwm, y gobaith yw y bydd gan bob myfyriwr meddygol sy'n graddio o Brifysgol Caerdydd y sgiliau sy'n eu galluogi i drin cleifion yn y ffordd orau mewn gwlad wirioneddol ddwyieithog."
Yn rhan o'r rhaglen, gall myfyrwyr ddewis bod yn rhan o'r ffrydiau rhugl, heb-fod-yn-rhugl a di-Gymraeg, sy'n golygu y bydd eu hyfforddiant wedi'i deilwra ar eu cyfer.
Bydd actorion yn helpu i greu sefyllfaoedd ffug, er mwyn profi sgiliau trin a sgiliau Cymraeg y myfyrwyr.
Dywedodd Hannah Rossiter, myfyriwr meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd: "Ar ôl symud i Gymru i fynd i'r brifysgol, sylweddolais pa mor gyffredin yw'r Gymraeg a pha mor bwysig yw rhoi'r opsiwn i gleifion Cymraeg eu hiaith dderbyn gofal yn eu mamiaith."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2014