Cwpan y Byd: Ni fydd Cymru'n gwisgo rhwymyn OneLove

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ni fydd Gareth Bale yn gwisgo rhwymyn yn erbyn yr Unol Daleithiau

Ni fydd capten Cymru, Gareth Bale, yn gwisgo rhwymyn braich OneLove yng Nghwpan y Byd wedi'r cwbl.

Roedd Cymru yn un o saith gwlad oedd yn bwriadu gwisgo'r rhwymyn - sy'n rhan o ymgyrch i hybu amrywiaeth a chynhwysiad - a ddechreuodd cyn Euro 2020.

Ond cadarnhawyd y byddai FIFA'n cosbi unrhyw chwaraewr neu wlad oedd yn defnyddio'r rhwymyn.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru'n dweud eu bod yn "rhwystredig" gyda'r penderfyniad.

Dywedodd un o chwaraewyr mwyaf profiadol Cymru, Jess Fishlock, ei bod "wedi'i ffieiddio" gan benderfyniad FIFA.

Dywed datganiad ar y cyd gan gymdeithasau pêl-droed Cymru, Lloegr, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Denmarc, Yr Almaen a'r Swistir, na allent roi chwaraewyr mewn sefyllfa lle gallen nhw wynebu sancsiynau, yn cynnwys cael cerdyn melyn.

"Felly rydym wedi gofyn i'n capteiniaid beidio ceisio gwisgo'r rhwymyn braich", meddai'r datganiad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhwymyn lliwgar yn rhan o ymgyrch i hybu amrywiaeth a chynhwysiad

"Roeddem yn barod i dalu dirwyon a fyddai'n cael eu gosod fel arfer am dorri rheolau cit, ac roedd gennym ymwrwymiad cryf i wisgo'r rhwymyn.

"Ond ni allwn roi ein chwaraewyr mewn sefyllfa lle gallent gael eu bwcio neu hyd yn oed gael eu gorfodi i adael y maes.

"Rydym yn rhwystredig iawn gyda phenderfyniad FIFA, sydd yn ddigynsail rydym yn credu.

"Fe wnaethom ysgrifennu at FIFA ym mis Medi yn eu hysbysu ein bod yn dymuno gwisgo'r rhwymyn OneLove er mwyn cefnogi cynhwysiad mewn pêl-droed, ac ni chawsom ymateb.

"Mae ein chwaraewyr a'n hyfforddwyr yn siomedig - maen nhw'n gefnogwyr cryf o gynhwysiad, a byddant yn dangos eu cefnogaeth mewn ffyrdd eraill."

Penderfyniad anodd

Yn ôl cyn amddiffynnwr Cymru, Kath Morgan, roedd y penderfyniad yn un anodd.

"Mae bach yn hwyr yn y dydd i fod yn onest i wneud penderfyniade fel hyn," meddai.

"Fi'n deall yn iawn falle bod chwaraewyr ishe gwisgo'r band ond ma'n rhaid i ni falle meddwl yn fwy tymor hir - ry'n ni'n ffaelu colli chwaraewyr fel Gareth Bale oherwydd fod e'n gwisgo band ar ei fraich."

Dywedodd cyn ymosodwr Cymru, Iwan Roberts, ei fod wedi ei siomi gyda'r newydd, ond yn ddealladwy na fyddai Gareth Bale eisiau cael cerdyn melyn yn syth ar ôl cyrraedd y cae.

"Mae'n syml, dwi jest yn cael y teimlad fod y bobl sy'n rhedeg FIFA, bod nhw'm isho disgyn allan efo Qatar, efo'r wlad sy'n dal y gystadleuaeth, a 'ma jest yn dangos, pan 'da chi mewn gwlad fel hyn, da chi'm yn cael rhoi eich barn, mae mor syml â hynna a dwi yn siomedig," meddai.

Pwysau gwleidyddol

Yn sgil penderfyniad FIFA dywedodd un aelod seneddol Llafur y dylai Mark Drakeford wisgo'r rhwymyn gan y bydd yn bresennol yn y gêm nos Lun.

Mae Chris Bryant AS Rhondda eisoes wedi beirniadu penderfyniad Prif Weinidog Cymru i fynychu'r achlysur.

Fe wnaeth Mr Bryant gyhuddo FIFA o fod yn unbenaethol gan ddweud y dylai unrhyw weinidogion o Lywodraeth y DU sydd yn Qatar hefyd wisgo rhwymyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn cyfweliad ar raglen radio BBC World at One dywedodd Mr Drakeford fod FIFA wedi ymddwyn mewn ffordd annheg wrth fwgwth chwaraewyr unigol.

"Mae'n un peth i gymdeithasau pêl-droed gael eu cosbi, ond mae'n fater gwahanol wrth drafod unigolion," meddai.

Wrth drafod ei benderfyniad i fynychu'r gêm dywedodd y byddai ei ymweliad yn galluogi Llywodraeth Cymru i gael "peth dylanwad".

Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n ailfeddwl yn dilyn penderfyniad FIFA dywedodd fod ganddo "gyfrifoldebau i gynrychioli Cymru pan ar achlysuron prin mae Cymru yn ymddangos ar lwyfan fel llwyfan Cwpan y Byd".

Bygythiad yn 'ffieiddio'

Dywedodd Jess Fishlock, sydd wedi ennill dros 100 o gapiau i Gymru, ei bod hi "wedi'i ffieiddio gyda FIFA".

"Meddyliwch bygwth y chwaraewyr - safwch lan dros eraill ac fe gewch eich bwcio."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyn Cwpan y Byd, dywedodd Jess Fishlock ei bod hi'n bwysig teithio i Qatar er mwyn bod "yn weledol" fel menyw hoyw

Dywedodd Sam Ledgerwood o grŵp pêl-droed cynhwysol, Swansea Galaxy, ei fod yn dal i obeithio y bydd y rhwymyn braich yn cael ei wisgo.

"Dwi dal yn gobeithio y byddwn ni'n gweld Gareth Bale yn gwisgo'r band braich pan fydd Cymru yn mynd allan ar y cae," meddai.

"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig i'r enwau mawr fel Gareth Bale ddefnyddio eu lleisiau."

Mewn neges ar Twitter dywedodd Wal yr Enfys, grŵp cefnogwyr LHDT+ Cymru, "nad yw'n ddigon da" i ildio i FIFA mewn unrhyw ffordd.

Mewn ymateb dywedodd defnyddiwr arall @Enfys46 ei fod yn gobeithio y byddai'r chwaraewyr yn gwisgo'r band braich p'run bynnag, er mwyn "dangos bod sefyll i fyny dros hawliau dynol yn golygu rhywbeth, waeth beth fo'r gost".

Roedd angen "rhoi FIFA mewn sefyllfa mor anodd â phosib," meddai.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price - sydd yn ddyn hoyw - fod penderfyniad FIFA yn "atgas" ac yn "greulon" a mynnodd eu bod yn gwrthdroi eu penderfyniad ac amddiffyn hawliau pobl LHDT+ "waeth ble mae'r gêm yn cael ei chynnal".

A dywedodd Tom Giffard, llefarydd y Ceidwadwyr ar Chwaraeon yn Senedd Cymru, eu bod yn cefnogi penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i orchymyn Gareth Bale i beidio gwisgo'r rhwymyn braich, gan y byddai cael ei fwcio yn "annheg i'r tîm ac iddo ef".

"Mae'r penderfyniad anodd hwn wedi amlygu'r mater ac wedi dod ag ef i sylw mwy eang efallai nag y byddai gwisgo band braich wedi'i gael."

Ffynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru ydy Noel Mooney

Mae record hawliau dynol ac agweddau tuag at bobl LHDT+ yn Qatar wedi bod dan y chwyddwydr ers i Gwpan y Byd gael ei rhoi i'r wlad.

Mewn cyfweliad gyda'r BBC yn gynharach ddydd Llun dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, bod Cymru wedi datgan yn glir eu bod yn dymuno gwisgo'r rhwymyn yn Qatar.

"Ond dros y diwrnod neu ddau diwethaf mae'r pyst wedi symud ychydig", meddai.

Yn dilyn y drafodaeth, mae FIFA wedi cyflwyno rhwymyn braich 'No Discrimination' - fydd yn cael ei ganiatáu.

Dywedodd Mr Mooney: "Mae FIFA wedi dod allan gydag ymgyrch newydd yr ydym yn ei hoffi'n arw. Mae o gyda'r UN. Mae'n cynnwys dewis o sawl gwahanol rwymyn, a phrosiectau gydag achosion da iawn, yr ydym yn eu cefnogi."

Drwy'r ymgyrch newydd gan FIFA, bydd gwahanol bynciau'n cael sylw mewn gwahanol rowndiau'r gystadleuaeth, yn cynnwys #NoDiscrimination, #SaveThePlanet, #ProtectChildren, #EducationForAll and #BeActive.