Rhybudd melyn am law trwm a gwynt yn y de fore Mercher

  • Cyhoeddwyd
Gallai'r tywydd gael effaith ar gyflenwadau trydan, medd y Swyddfa DywyddFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r tywydd gael effaith ar gyflenwadau trydan, medd y Swyddfa Dywydd

Roedd y Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am law trwm a gwyntoedd cryfion mewn rhannau o Gymru yn ystod oriau mân fore Mercher.

Roedd rhybudd melyn yn weithredol rhwng 03:00 ac 08:00 mewn 14 sir yn y de.

Mae ffordd yr A477 Pont Cleddau yn Sir Benfro wedi ei chau i gerbydau uchel oherwydd y tywydd.

Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r tywydd gwael gael effaith ar gyflenwadau trydan ac y gallai teithiau ar drafnidiaeth cyhoeddus gymryd mwy o amser.

Y siroedd oedd dan sylw oedd Mynwy, Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Casnewydd, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Caerfyrddin a Phenfro.

Pynciau cysylltiedig