Rhybudd melyn am wynt a glaw ar draws Cymru ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd
TywyddFfynhonnell y llun, Getty/Swyddfa Dywydd

Mae cannoedd o gartrefi wedi bod heb drydan ddydd Iau yn dilyn cyfnod o dywydd garw.

Roedd y Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod disgwyl glaw trwm a gwyntoedd cryfion ymhob rhan o Gymru ddydd Iau.

Daeth y rhybudd melyn i rym am 10:00 ac mae'n para tan 19:00.

Ar un adeg roedd tua 1,000 o gartrefi heb drydan ar hyd de a gorllewin Cymru, meddai'r Grid Cenedlaethol.

Dywedon nhw bod disgwyl i gyflenwadau gael eu hadfer erbyn ganol y prynhawn.

Yn y gogledd, dywedodd SP Energy Networks bod namau gyda rhai cysylltiadau ar Ynys Môn.

Mae amryw o rybuddion llifogydd hefyd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol.

Ffynhonnell y llun, Matthew Keeble Payne
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid cau rhan o'r A470 wedi i goeden syrthio, gan effeithio ar deithwyr rhwng Llanelwedd a Llys-wen

Mewn mannau arfordirol roedd disgwyl i'r gwyntoedd gyrraedd rhwng 60 a 70mya, yn enwedig yn siroedd Penfro, Gwynedd ac Ynys Môn.

Ac mewn mannau lle mae'r tir yn wlyb iawn yn barod, roedd rhybudd bod llifogydd a thrafferthion teithio yn bosib.

Roedd y tywydd garw eisoes yn cael effaith brynhawn Mercher, a bu'n rhaid cau'r A470 yn ardal Erwyd ym Mhowys oherwydd llifogydd.

Mae sawl coeden hefyd wedi syrthio yn yr ardal, yn dilyn yr hyn y mae'r cyngor sir wedi ei ddisgrifio fel "corwynt bach" gan effeithio ar bobl sy'n teithio rhwng Llanelwedd a Llys-wen.

Ffynhonnell y llun, Tegwen Morris
Disgrifiad o’r llun,

Roedd effaith y gwyntoedd cryfion i'w weld yn glir ar y prom yn Aberystwyth fore Iau

Ffynhonnell y llun, Tegwen Morris

Yn Sir Gaerfyrddin bu'n rhaid cau yr A4066 ar ôl i goeden ddisgyn rhwng Llanmilo a Thalacharn.

Bu'n rhaid cau ardal glan môr pentref Amroth dros nos wrth i'r llanw uchel daflu cerrig mân a malurion ar hyd y ffordd.

Pynciau cysylltiedig