Rhybudd tywydd i siroedd y de dros y penwythnos

  • Cyhoeddwyd
glaw trwmFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion a glaw trwm dros rai o siroedd de Cymru dros y penwythnos.

Mae disgwyl i law ymledu o'r gorllewin a symud yn raddol tua'r dwyrain o 14:00 ddydd Sadwrn tan 06:00 fore Sul.

Mae tîm rygbi Cymru'n chwarae Awstralia yn Stadiwm Principality, Caerdydd, ddydd Sadwrn, gyda'r gêm i ddechrau am 15:15.

Mae nam gyda tho'r stadiwm yn golygu nad oes modd ei gau yn llwyr, gan olygu fod bwlch o ychydig fetrau dros ganol y cae ble bydd hi'n tywallt y glaw.

Gallai'r glaw achosi trafferthion brynhawn a nos Sadwrn, meddai'r Swyddfa Dywydd, gyda 15-25mm o law yn debygol mewn mannau.

Bydd y glaw ar ei waethaf dros dir uchel, gyda 40-60mm yn bosib. Fe fydd y gwynt hefyd yn hyrddio o gwmpas 45-55mya ar y bryniau a'r arfordir.

Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd melyn yn effeithio ar siroedd y de

Mae'r rhybudd yn effeithio ar y siroedd Abertawe, Penfro, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Caerdydd, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Mynwy, Caerfyrddin, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Pynciau cysylltiedig