Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Stormers 36-19 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Tom Rogers and Scott Williams move in on Kade WolhuterFfynhonnell y llun, Rex Features

Roedd yna ddigon o fwrlwm a phwyntiau yn Stadiwm DHL yn Cape Town nos Wener ond colli wnaeth y Scarlets.

Ar hanner amser roedd y sgôr yn 29-7 wedi pedwar cais gan y tîm cartref (Jantjies, Zas, van Rhyn, Dayimani) ac un i'r Cymry - Ryan Conbeer a sgoriodd y cais i'r Scarlets wedi gwaith da ymysg yr olwyr ac roedd cicio Dan Jones yn llwyddiannus.

Roedd yna bumed cais i'r tîm cartref ar ddechrau yr ail hanner ond fuodd y Scarlets ddim yn hir cyn ymateb wrth i Tom Rogers sgorio cais a Ryan Conbeer ei ail gais a chyn pen yr awr roedd y sgôr yn 36-19 wedi trosgais llwyddiannus Rhys Patchell.

Doedd yna ddim sgôr pellach i un o'r ddau dîm er bod ymdrech dda gan Steff Evans i sgorio cais yn y cornel wedi 77 munud.

Y sgôr terfynol Stormers 36-19 Scarlets.

Pynciau cysylltiedig