Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Bulls 43-26 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Max NagyFfynhonnell y llun, Rex Features

Cafodd y Gweilch eu trechu'n gyfforddus gan y Bulls ddydd Sadwrn yng ngêm gyntaf eu taith i Dde Affrica.

Wedi i storm achosi 30 munud o oedi i'r gic gyntaf, cafodd y tîm cartref y dechrau perffaith gyda cheisiau cynnar gan David Kriel, Nizaam Carr a WJ Steenkamp.

Ymatebodd Jack Walsh gyda chais i'r Cymry, cyn i Kriel groesi eto i selio'r pwynt bonws i'r Bulls wedi dim ond 33 munud.

Sgoriodd Tiaan Thomas-Wheeler ail gais i'r Gweilch ond llwyddodd Elrigh Louw i groesi eto i'r tîm cartref cyn hanner amser i'w gwneud yn 31-14 ar yr egwyl.

Daeth trydydd cais i'r ymwelwyr trwy Keiran Williams yn yr ail hanner, ond fe wnaeth y Bulls daro 'nôl unwaith eto gyda chais gan Ruan Nortjé.

Llwyddodd y Gweilch i sicrhau pwynt bonws gyda chais gan Rhys Henry, cyn i'r tîm cartref gael y gair olaf trwy Zak Burger.

Dyma gêm gyntaf y Gweilch ar eu taith yn Ne Affrica, cyn iddyn nhw'n herio'r Sharks nos Wener.

Pynciau cysylltiedig