Cwpan FA Lloegr: Casnewydd 1-2 Derby County
- Cyhoeddwyd
Mae Casnewydd allan o Gwpan FA Lloegr er gwaethaf perfformiad dewr yn erbyn Derby County yn yr ail rownd dydd Sul.
Aeth yr Alltudion ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf, wrth i Priestley Farquharson benio croesiad Aaron Lewis o gic rydd i gefn y rhwyd.
Ond fe wnaeth yr ymwelwyr daro 'nôl ar ddechrau'r ail hanner wrth i Louie Sibley rwydo gydag ergyd o ymyl y cwrt cosbi.
Gyda dau funud yn unig yn weddill sgoriodd David McGoldrick y gôl fuddugol i Derby, a sicrhau mai eu henw nhw fydd yn yr het ar gyfer y drydedd rownd.
Mae Wrecsam eisoes wedi sicrhau eu lle yn y rownd honno wedi iddyn nhw drechu Farnborough ddydd Sadwrn.