Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Sharks 0-35 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Thomas YoungFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd y blaenasgellwr Thomas Young ddau gais i Gaerdydd

Fe lwyddodd Rygbi Caerdydd i roi cweir i'r Sharks gyda pherfformiad gwych yn Durban ddydd Sul.

Daeth cais cyntaf y gêm i Gaerdydd, wrth i'r dyfarnwr roi cais gosb yn erbyn Marnus Potgieter am daro'r bêl yn farw tu ôl i'w linell gais ei hun.

Yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf sgoriodd Thomas Young ail gais i roi mantais sylweddol o 0-23 i'r Cymry ar yr egwyl.

Daeth ail gais i Young o sgarmes symudol ar ddechrau'r ail hanner, cyn i Ben Thomas selio'r pwynt bonws i'r ymwelwyr wedi 58 munud.

Dyma gêm gyntaf Caerdydd ar eu taith yn Ne Affrica, cyn iddyn nhw'n herio'r Bulls ddydd Sadwrn.

Pynciau cysylltiedig