Heddlu Gwent: Plismon wedi ei ddiswyddo ar ôl ffrwgwd

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

"Does dim lle i'r math yma o ymddygiad o fewn Heddlu Gwent", yn ôl y Prif Gwnstabl Pam Kelly

Mae plismon gyda Heddlu Gwent wedi cael ei ddiswyddo am gamymddwyn difrifol yn dilyn ffrwgwd mewn bar.

Cafodd PC Simon Rohman ei ddiswyddo ar ôl ffrwgwd geiriol a chorfforol gyda dau aelod o'r cyhoedd yng Nghaerdydd ym mis Medi 2021.

Yn ôl y llu roedd lluniau CCTV yn dangos PC Rohman, oedd ddim ar ddyletswydd ar y pryd, yn taro aelod o'r cyhoedd.

Cafodd ei atal gan staff wrth ddrws y bar, a'i arestio am fod yn feddw ac afreolus.

Mewn gwrandawiad disgyblu oedd wedi ei gyflymu, fe wnaeth y Prif Gwnstabl Pam Kelly ddyfarnu bod ymddygiad y swyddog yn cyfateb i gam-ymddygiad difrifol.

"Mae ein cymunedau yn haeddu'r safonau uchaf gan ein swyddogion. Mae ymddygiad y swyddog yma pan nad oedd ar ddyletswydd, wedi gostwng yn llawer is na'r safonau rheiny", meddai'r Prif Gwnstabl.

"Roedd gan PC Rohman bob cyfle i gerdded i ffwrdd o sefyllfa oedd yn un danllyd, ac roedd hyn yn llawer mwy na 'dau funud o wallgofrwydd'".

"Roedd yn ymddygiad cwbl amhriodol ac yn safon nad ydw i yn fodlon ei dderbyn o fewn Heddlu Gwent."

Bydd Mr Rohman yn cael ei osod ar restr y Coleg Plismona o swyddogion sydd wedi eu gwahardd.

Pynciau cysylltiedig