Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Bulls 45-9 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n fuddugoliaeth gyfforddus i'r tîm cartref wrth i Gaerdydd wneud y daith hir i Dde Affrica.
Roedd ceisiau gan Arendse, Goosen, Nortje, Louw a dau gan Moodie yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth yn Pretoria.
Ar noson anodd i'r Gleision daeth unig bwyntiau'r Cymry diolch i droed Jarrod Evans o giciau cosb.
Ond roedd troed Johan Goosen yr un mor effeithiol wrth i'r Teirw agor y llifddorau a chroesi'r llinell terfyn gyda'r pwyntiau llawn.
O ganlyniad mae'r Bulls bellach yn yr ail safle gyda Chaerdydd yn chweched.