Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Lions 32-15 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Vaea FifitaFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae tymor y Scarlets yn parhau i fynd o ddrwg i waeth ar derfyn penwythnos anodd i ranbarthau Cymru yn Ne Affrica.

Roedd ceisiau gan Emmanuel Tshituka, Jaco Kriel a dwy i Rabz Maxwane yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus wrth i dîm Dwayne Peel ffeindio hi'n anodd i wneud argraff.

Rhuthrodd y tîm cartref ar y blaen gyda dwy gais o fewn yr 20 munud agoriadol cyn i Dan Davis leihau'r fantais gyda 32 munud ar y cloc.

Ond dod yn ôl yn gryf wnaeth y Lions wedi'r egwyl gyda chais Tom Rogers yn methu a llenwi'r bwlch wrth i Kriel a Tshituka ychwanegu at y sgôr fwrdd.

Doedd cais arall gan Sam Lousi ar derfyn y gem ddim yn ddigon i sicrhau pwynt bonws wrth i'r tîm cartref gadw eu lle yn bumed yn y tabl.

Pynciau cysylltiedig