Rhybudd melyn am rew yn dod i rym brynhawn Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi diweddaru rhybudd melyn am rew yng Nghymru wrth i'r tymheredd ostwng.
Bydd y rhybudd bellach yn dod i rym yn gynt na'r disgwyl yn wreiddiol - am 17:00 brynhawn Mercher - ac yn para tan 18:00 ddydd Iau.
Fe allai'r amodau arwain at anafiadau wrth i bobl lithro neu syrthio.
Mae hefyd disgwyl trafferthion i deithwyr - gydag ambell fan o bosib yn rhewllyd ar ffyrdd, palmentydd a llwybrau seiclo sydd heb eu trin.
Mae cawodydd eira hefyd yn bosib ar dir uchel yn ystod y dydd wrth iddyn nhw symud o Ogledd Iwerddon tua chanolbarth Lloegr.
Roedd y rhybudd gwreiddiol ar gyfer Cymru gyfan ond mae bellach yn berthnasol i 12 o siroedd yn unig:
Abertawe
Caerfyrddin
Castell-nedd Port Talbot
Ceredigion
Conwy
Dinbych
Gwynedd
Penfro
Powys
Wrecsam
Y Fflint
Ynys Môn
Gyda'r disgwyl i'r tymheredd ostwng dan y rhewbwynt yr wythnos hon mae Dŵr Cymru yn cynghori pobl i gymryd camau i warchod eu cartrefi rhag i bibellau rewi a byrstio.
Maen nhw'n rhybuddio sut y gallai ymatal rhag rhoi'r gwres ymlaen, er mwyn arbed arian yn ystod yr argyfwng costau byw, gynyddu'r risg o bibellau'n rhewi.
Maen nhw annog cwsmeriaid i insiwleiddio pibellau, yn enwedig rhai sydd tu allan neu mewn llefydd heb wres, fel yr atig neu'r garej.