Beirniadaeth gref wedi marwolaethau padlfyrddio Hwlffordd
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad swyddogol wedi beirniadu'n gryf y ffordd y cafodd taith badlfyrddio yn Sir Benfro - ble bu farw pedwar o bobl - ei threfnu.
Bu farw Paul O'Dwyer, 42 o Aberafan, Morgan Rogers, 24 o Ferthyr Tudful, a Nicola Wheatley, 40 o Bontarddulais, ar ôl mynd i drafferthion ar Afon Cleddau Wen yn Hwlffordd ar 30 Hydref y llynedd.
Bron i wythnos yn ddiweddarach ar 5 Tachwedd bu farw Andrea Powell, 41, yn Ysbyty Llwynhelyg.
Yn ei adroddiad dywedodd prif archwilydd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB), Alan Moll, fod y digwyddiad yn "drasig" ond yn un roedd modd ei osgoi.
Beth ddigwyddodd y diwrnod hwnnw?
Roedd Mr O'Dwyer, oedd yn gyn-filwr, yn un o arweinwyr y daith badlfyrddio, oedd wedi'i threfnu gan gwmni Salty Dog Company o Bort Talbot.
Roedd naw o bobl yn rhan o'r daith ar fore 30 Hydref 2021. Aeth pedwar ohonynt i drafferthion mewn cored (weir) ar Afon Cleddau Wen tu allan i neuadd y sir yn Hwlffordd.
Dywedodd yr adroddiad eu bod yn sownd yno, "gyda dim modd dianc".
Ychwanegodd, er bod yr arweinwyr yn badlfyrddwyr profiadol, doedd ganddyn nhw "ddim profiad o ddysgu pobl amhrofiadol ar afonydd sy'n llifo'n gyflym".
Yn ôl yr MAIB roedd paratoadau'r arweinwyr ar gyfer y digwyddiad yn annigonol, ac ni wnaethon nhw ystyried perygl y gored.
Ychwanegodd nad oedd ganddyn nhw hyfforddiant, profiad na chymwysterau digonol i arwain y grŵp o Hwlffordd i Burton Ferry.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud fod y dillad roedden nhw'n ei wisgo, offer arnofio ac yr arwyddion ar yr afon yn annigonol.
Galw am welliannau
Mae amryw o argymhellion diogelwch wedi'i wneud yn yr adroddiad, gan gynnwys:
Cynnal asesiad risg o'r peryglon sy'n cael ei achosi gan y gored, a chymryd camau i leihau'r risg hwnnw;
Cynnal adolygiad o lywodraethiant padlfyrddio gan Gyngor Chwaraeon Cenedlaethol y DU;
Dylai'r corff hwnnw hefyd adolygu a datblygu canllawiau newydd ar gyfer y rheiny sy'n arwain teithiau padlfyrddio.
Dywedodd prif arolygydd MAIB, Alan Moll, mai padlfyrddio ydy un o'r campau dŵr sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, gyda'r niferoedd sy'n cymryd rhan wedi cynyddu 300% dros y blynyddoedd diwethaf.
Ond ychwanegodd ei bod yn "allweddol fod llywodraethiant y gamp yn gwella fel y gall y cyhoedd dderbyn cyngor diogelwch eglur a chyson".
Wedi'r marwolaethau fe gafodd menyw ei harestio ar amheuaeth o ddynladdiad trwy esgeulustod, cyn cael ei rhyddhau dan ymchwiliad.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau fod y fenyw yn parhau dan ymchwiliad, a bod tystiolaeth wedi cael ei basio i Wasanaeth Erlyn y Goron iddyn nhw ystyried a fydd unrhyw gyhuddiadau yn cael eu dwyn yn ei herbyn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021