Ymestyn rhybudd melyn am rew ac eira dros rannau o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Eira yn Llanuwchllyn
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa aeafol yn Llanuwchllyn fore Sadwrn

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi diweddaru rhybudd melyn am rew - ac eira erbyn hyn - ar draws rhannau o Gymru nes ddydd Sul.

Mae'r rhybudd wedi bod mewn grym ar gyfer mwyafrif y siroedd ers 16:00 ddydd Iau, ac mae'n weithredol tan hanner dydd, brynhawn Sul.

Y disgwyl yw y bydd eira'n disgyn ar dir uchel gyda phosibilrwydd o "sawl centimedr" ar diroedd uchel gogledd Cymru.

Fe rybuddiodd y Swyddfa y gallai tir is weld rhywfaint o eira hefyd, a hynny yn y de ddwyrain nos Sadwrn a bore Sul.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira a rhew yng Nghymru

Mae eira wedi disgyn mewn rhai ardaloedd yn barod, fel Llanuwchllyn yng Ngwynedd, ond mae'r tywydd gaeafol wedi achosi problemau ar y ffyrdd.

Cafodd Ffordd y Mynydd rhwng Penegoes a Dylife ei chau ym Mhowys fore Sadwrn oherwydd y tywydd.

Roedd 'na broblemau i gerbydau oherwydd rhew ar ffordd yr A494 yn Llanbedr Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych.

Cafodd ffordd yr A55 yn Rhuallt, Sir Ddinbych ei chau tua'r dwyrain oherwydd gwrthdrawiad.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd ffordd yr A55 yn Sir y Fflint yn drwch o eira brynhawn Sadwrn

Mae yna rybudd i bobl i fod yn ofalus - yn enwedig ar balmentydd, ffyrdd a llwybrau beic nad sydd wedi'u graeanu - oherwydd gall cawodydd gaeafol ddisgyn ar dir wedi rhewi ac arwain at rew llithrig.

Wrth ymateb i drydariad gan Gyngor Conwy ddydd Gwener, dywedodd nifer o drigolion yr ardal bod diffyg graeanu eisoes wedi achosi rhai gwrthdrawiadau yn ardal Conwy, yn ogystal ag amodau peryglus i gerddwyr.

Ffynhonnell y llun, Cheryl Williams-Simpson
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gwrthdrawiad yn nhref Conwy mewn amodau rhewllyd fore Gwener

Dywedodd Cyngor Conwy eu bod yn "darparu biniau graean i bobl allu defnyddio ar ffyrdd lleol".

"Mae'r biniau fel arfer mewn lleoliadau ger cyffyrdd prysur neu elltydd serth, ond sydd ddim ar Ffyrdd Blaenoriaeth Gyntaf sy'n cael eu grutio gan ein fflyd graeanu."

Ychwanegodd y cyngor mai eu blaenoriaeth yn ystod tywydd rhewllyd yw graeanu 10 o'r prif ffyrdd, sy'n cwmpasu 32% o rwydwaith ffyrdd y sir.

Pynciau cysylltiedig