Cerddorion yn codi llais dros ddyfodol Neuadd Dewi Sant
- Cyhoeddwyd
Mae dros 20,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu cynllun Cyngor Caerdydd i drosglwyddo cyfrifoldeb am Neuadd Dewi Sant i gwmni preifat.
Cafodd cyfarfod arbennig ei gynnal gan Gyngor Caerdydd ddydd Gwener, i ystyried cytundeb allai arwain at fuddsoddi yn nyfodol y neuadd gyngerdd genedlaethol, ac arbed miliynau o bunnoedd i'r trethdalwyr.
Cwmni sy'n arbenigo mewn cynnal cyngherddau cerddoriaeth pop a roc, Academy Music Group, sy'n cynnig rhentu'r neuadd er mwyn cynnal digwyddiadau.
Mae gan AMG bron i 20 o ganolfannau ar draws y DU, ond hon fyddai'r gyntaf yng Nghymru.
Mae cerddorion blaenllaw fel y delynores adnabyddus Catrin Finch yn pryderu am ddyfodol cerddoriaeth glasurol yn y brifddinas, ac yng Nghymru yn ehangach.
"Bydd o'n travesty bydd os 'da ni'n colli'r neuadd. A bod o just yn rhyw fath o le mawr arall, rhyw fath o warehouse ble maen nhw'n rhoi'r gigs 'ma ymlaen," meddai.
"Mae 'na lefydd o gwmpas am hynny yn barod. Dim ond un, y neuadd yma, sydd ar ôl.
"Dwi'n meddwl bod o mor bwysig bod ni'n gweld y llun mawr, a bod ni'n trysori'r lle a 'neud yn siŵr bod 'na wir ddyfodol i gerddoriaeth o bob math ar y llwyfan yn Neuadd Dewi Sant."
Dadl Cyngor Caerdydd yw nad yw'r neuadd fel y mae yn gynaliadwy nac yn fforddiadwy, a bod rhaid cael canolfan sy'n fwy hyblyg.
Fel pob awdurdod lleol mae'r cyngor wedi gweld eu cyllideb yn crebachu dros y ddegawd ddiwethaf, gan eu gorfodi i wneud toriadau.
Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn rhoi grant o tua £700,000 y flwyddyn i Neuadd Dewi Sant er mwyn ei chynnal.
Ond gyda'r adeilad bellach ar agor ers 40 mlynedd, mae'n dangos ôl treulio ac mae yna gydnabyddiaeth gyffredinol bod angen buddsoddi a moderneiddio.
Un opsiwn sy'n cael ei ystyried yw trosglwyddo'r cyfrifoldeb a'r costau am y neuadd i'r busnes Academy Music Group.
Mae'r cwmni'n cynnig rhentu'r neuadd am gyfnod hir, ac maen nhw'n addo buddsoddi a moderneiddio'n eang gan gynnwys gosod seddi newydd all gael eu symud i greu gofod, gwaith cynnal a chadw, a chadw'r staff presennol - heb gost i'r trethdalwyr.
O dderbyn y cynnig, bydd 60 diwrnod y flwyddyn yn cael eu neilltuo ar gyfer cyngherddau clasurol.
Yn y cyfarfod ddydd Gwener, fe gafodd cynnig gan y Democratiaid Rhyddfrydol am ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y neuadd ei wrthod.
Mae'r cyngor wedi addo cynnal ymgynghoriad os fydd cais AMG yn cael ei gymeradwyo.
Acwsteg arbennig
Pryder y cerddor a'r arweinydd adnabyddus Owain Arwel Hughes yw y gallai'r datblygu niweidio naws arbennig y neuadd.
"Mae pawb yn y byd rŵan yn gwybod am Neuadd Dewi Sant. Mae'n un o'r 10 gorau yn y byd ar gyfer acoustics, mae hwnna'n beth aruthrol.
"Mae pawb sydd yn dod i berfformio wrth eu bodd, maen nhw wastad isie dod yn ôl i Neuadd Dewi Sant achos mae'r acoustics mor dda.
"Ond hefyd mae'n dda ar gyfer y cyhoedd, y gynulleidfa. Ble bynnag 'da chi yn y neuadd 'da chi'n clywed a gweld yn dda ac felly mae hwn yn rhywbeth mae rhaid i ni byth colli."
Ymhlith rhinweddau arbennig eraill y Neuadd Gyngerdd Genedlaethol mae organ ysblennydd, a seddi ar gyfer hyd at 2,000 o gynulleidfa.
O weld y cynllun sy'n cael ei gynnig, mae nifer o staff y neuadd yn proffwydo trafferthion.
Cerddor a thechnegydd sain yw Paul Jones: "Mae 'na lot o stress achos 'da ni'n weld sut mae academies yn gweithio dros Brydain i gyd ac mae 'na mwy o bwyslais ar y bars ac mae'n mynd i newid y ffordd 'da ni'n gweithio.
"I fi mae peidio cael symphony hall yng Nghaerdydd, yn y brifddinas, mae'n rhywbeth cenedlaethol."
Ond mae'n cydnabod y benbleth economaidd: "Dwi'n dallt bod gan y cyngor job amhosib bron gyda'r cuts da ni wedi eu gweld dros y 10 mlynedd ddiwetha', mae'n really, really anodd.
"Ond just i ddweud - ma' Neuadd Dewi Sant yn mynd i fod yn privatised, 'dy ni ddim yn gallu fforddio culture dim mwy. Dwi ddim yn gwybod faint yw'r subsidy bob blwyddyn ond siŵr - mae culture yn werth o?"
'Gwlad y gân?'
Mae Catrin Finch yn pryderu am dranc ehangach cerddoriaeth yma.
"Ar draws y byd mae pobl yn meddwl am wlad y gân, 'ni di bod ar y llwyfan yng Nghwpan y Byd - a be 'dan ni'n enwog amdano? Y canu! Canu'r anthem, canu Yma O Hyd.
"Da ni'n creu'r darlun yma yn eang o fod yn wlad y gân ond eto 'dan ni ddim yn buddsoddi yn y gân yna. 'Dyn ni ddim yn buddsoddi yn y dyfodol i wneud yn siŵr ei fod yn saff."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2021