Caerdydd: Ymchwilio i adroddiad o ymosodiad rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i adroddiad o ymosodiad rhyw difrifol yng Nghaerdydd.
Cadarnhaodd swyddogion eu bod wedi cael gwybod am y digwyddiad ym Mhontcanna yn ystod oriau mân y bore ddydd Llun.
Yn ôl y llu mae'r ffordd gyferbyn â Stryd Hamilton a Stryd Talbot ynghau tra bo'r ymchwiliad yn mynd rhagddo.