Y Bencampwriaeth: Stoke 2-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Callum Robinson yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images

Callum Robinson lwyddodd i osgoi colled i Gaerdydd yn erbyn Stoke ddydd Sadwrn.

Fe gafodd yr Adar Gleision gôl gan Ryan Wintle wedi chwe munud yn unig, ond fe ddaeth Tyrese Campbell â'r sgôr yn gyfartal yn fuan wedyn.

Liam Delap sgoriodd yr ail gôl i'r tîm cartref, gyda Robinson yn sicrhau gêm gyfartal o 2-2 yn yr ail hanner.

Mae'r ddau dîm yn agos yn y Bencampwriaeth - Stoke yn 18fed a Chaerdydd yn y 19eg safle.