Cwpan Her Ewrop: Rygbi Caerdydd 41-0 Brive
- Cyhoeddwyd
Fe ddaeth cais ar ôl cais i sicrhau buddugoliaeth hynod gyfforddus i Rygbi Caerdydd yn erbyn Brive nos Sadwrn.
O fewn y munudau cyntaf, Kristian Dacey groesodd y llinell gyda'r cais cyntaf i Gaerdydd.
Cafodd Dacey gais arall, gydag un gan Josh Adams, Lloyd Williams a Teddy Williams yn ddiweddarach.
Wrth i chwaraewr Brive, Tom Danovaro, gael ei anfon o'r cae ar ôl cerdyn melyn tua diwedd y gêm, fe lwyddodd Mason Grady a Theo Cabango i ddod â'r cyfanswm o geisiau i saith erbyn y chwiban olaf.
Fe lwyddodd Jarrod Evans gyda thri trosgais hefyd a Rygbi Caerdydd yn ennill o 41-0 ym Mharc yr Arfau.