Rhybuddion ar y ffyrdd yn dilyn rhew ac eira
- Cyhoeddwyd
Mae 'na sawl rhybudd i bobl fod yn ofalus ar y ffyrdd wrth i rew ac eira greu problemau ar draws Cymru.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod sawl gwrthdrawiad wedi digwydd ar hyd yr M4 oherwydd y tywydd gwael.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cynghori pobl ond i deithio os oes yn rhaid.
Roedd rhybudd melyn mewn grym gan y Swyddfa Dywydd ers ddydd Iau tan ganol ddydd Sul.
'Amodau hynod o wael'
Mae asiantaeth Traffig Cymru y Llywodraeth yn y de a'r gogledd wedi rhybuddio am amodau gwael ar y ffyrdd.
Roedd yr A4233 yn Nhrebanog ger Tonyrefail, Rhondda Cynon Taf, wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad oherwydd gwrthdrawiad.
Roedd rhan o'r M4 ar gau tua'r dwyrain ger Margam oherwydd gwrthdrawiad fore Sul.
Roedd ffordd yr A449 yn Rhaglan, Sir Fynwy, wedi ei rwystro'n rhannol hefyd oherwydd gwrthdrawiad.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod "amodau ar y ffyrdd ar hyd de Cymru yn hynod wael.
"Mae 'na sawl adroddiad o iâ ar y ffyrdd, gan gynnwys ar yr M4, ac mae rhai ffyrdd wedi eu heffeithio gan eira."
Roedd 'na eira trwchus ar rai ffyrdd yn y gogledd ddydd Sadwrn - ar yr A55 yn Sir y Fflint yn enwedig.
Cafodd sawl ffordd ei chau oherwydd y tywydd yn Sir Ddinbych, Ceredigion, Powys a Wrecsam.
Mae yna rybudd i bobl i fod yn ofalus - yn enwedig ar balmentydd, ffyrdd a llwybrau beic nad sydd wedi'u graeanu - oherwydd gall cawodydd gaeafol ddisgyn ar dir wedi rhewi ac arwain at rew llithrig.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2022