Cwpan Her Ewrop: Scarlets 39-7 Bayonne

  • Cyhoeddwyd
Scarlets yn dathluFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Roedd hi'n fuddugoliaeth fawr i'r Scarlets gyda phum cais ar brynhawn oer yn Llanelli yn erbyn Bayonne.

Ceisiau Ryan Conbeer, Dane Blacker, Sam Lousi, Blade Thompson a Steff Evans wnaeth sicrhau'r holl bwyntiau.

Gyda phedwar trosgais a dau gic gosb gan Sam Costelow, fe lwyddodd y maswr i roi 14 o bwyntiau ar y sgorfwrdd hefyd.

Llwyddodd Bayonne i groesi'r llinell gais unwaith - a Thomas Aquier wnaeth hynny cyn hanner amser.

Mae carfan Dwayne Peel wedi llwyddo i gyrraedd brig Grŵp B gyda phwynt bonws yng Nghwpan Her Ewrop, yn dilyn rhai canlyniadau siomedig yn y gynghrair.

Pynciau cysylltiedig