Cwpan Her Ewrop: Y Gweilch 17-23 Caerlŷr

  • Cyhoeddwyd
gweilch - caerlyrFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y Gweilch oedd ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf

Colli wnaeth y Gweilch yn stadiwm Swansea.com nos Sul a hynny wedi iddynt ddangos cryn addewid yn yr hanner cyntaf.

Wedi tair munud roedd y Gweilch ar y blaen o driphwynt ac erbyn hanner amser roedd y sgôr yn 10-6 wedi cais gan Nicky Smith a throsiad llwyddiannus gan Jack Walsh.

Ond yn fuan yn yr ail hanner fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi i Harry Potter ac Anthony Watson sgorio cais ac erbyn bron i awr o chwarae roedd y sgôr yn 10-20 wrth i Charlie Atkinson gicio'n llwyddiannus.

Ond doedd y Gweilch ddim am ildio - wedi 73 munud roedd yna gais i Morgan Morris ac wedi trosiad Jack Walsh, triphwynt oedd rhwng y ddau dîm (17-20).

Ar ddiwedd y gêm roedd yna driphwynt arall i'r teigrod o Gaerlŷr a nhw felly oedd yn fuddugol (17-23).

Ddydd Sadwrn fe fydd y Gweilch yn wynebu Montpellier oddi cartref.

Pynciau cysylltiedig